Newyddion S4C

Angen gwneud ‘mwy’ i annog pobl ifanc i gael eu brechu

Newyddion S4C 14/07/2021

Angen gwneud ‘mwy’ i annog pobl ifanc i gael eu brechu

Dyw cyfraddau brechu ymysg pobl ifanc “ddim mor dda” a beth hoffai’r llywodraeth ei weld, yn ôl y Prif Weinidog.

Hyd yma, 73.3% o bobl rhwng 18 a 29 sydd wedi derbyn y brechlyn yng Nghymru. 

Yn ôl Mr Drakeford, mae’r ffigurau yn “dda” ond maen nhw “isie gwneud mwy”.

Roedd y Prif Weinidog yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg, gan ddatgelu'r cynlluniau ar gyfer llacio cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

‘Heb ddarfod y rhaglen frechu’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Dr Nia Hughes, sy’n feddyg teulu ar Ynys Môn, nad yw’r rhaglen frechu wedi ei gyflawni’n llawn eto.

“Yn enwedig gyda’r cohort 10, sef yr unigolion o dan 49, 18 i 49 ynde,” meddai.

“Mae’n bryderus meddwl bo nhw ella yn mynd i gario ymlaen bywyd bob dydd, mynd i gymdeithasu, mynd i glybiau nos sydd heb eu hawyru ac criwiau mawr o bobl o dan do – a bo ni ddim isho gweld yr unigolion yna yn mynd yn sâl rŵan hefo Covid ac yn gorfod mynd i’r ysbyty."

Dan y llacio diweddaraf, fe fydd 200 o bobl yn sefyll yn cael mynychu digwyddiad dan do, tra bydd 1,000 o bobl yn cael mynychu digwyddiad dan do gan eistedd. 

O 7 Awst, bwriad y llywodraeth yw dod a holl gyfyngiadau i ben ar gyfer y nifer o bobl sy'n cael mynychu digwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored. 

Image
Mark Drakeford
Mark Drakeford (Llun: Llywodraeth Cymru)

Yn gynharach yn yr wythnos, fe wnaeth y dirprwy prif swyddog meddygol, Dr Gill Richardson, ddweud y dylai teuluoedd a ffrindiau annog pobl dan 30 i gymryd y brechlyn.

Daw hyn wrth i’r ffigyrau diweddaraf ddangos fod rhwng 60-70% o achosion positif yng Nghymru ymhlith pobl dan 30.

Dywedodd Mr Drakeford: “Mae’r ffigyrau yn dda, o ni ishe ‘neud mwy.

“Mae’r system yn treial rhoi popeth yn ei le i ‘neud e’n haws i bobl ifanc, drwy pop-up clinics, pop-in clinics, a trio perswadio pobl ifanc hefyd.

“Ni am wneud mwy dros y tair wythnos nesaf i ‘neud o’n gyfleus i bobl ifanc, a ‘neud mwy i berswadio nhw.

“Ond nid jyst gwaith y llywodraeth yw hyn,” meddai.

Ategodd sylwadau Dr Richardson, gan ddweud y dylai pawb gymryd cyfrifioldeb a cheisio annog pobl ifanc i dderbyn y brechlyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.