Newyddion S4C

Diddymu'r mwyafrif o reoliadau Covid-19 yng Nghymru fis nesaf

14/07/2021
Grŵp o bobl yn cyfarfod yn yr awyr agored

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar 7 Awst, "os bydd yn ddiogel" i wneud hynny.

Golygai hyn y bydd holl gyfyngiadau yn dod i ben at 7 Awst yng Nghymru, a ni fydd cyfyngiad cyfreithiol ar nifer y bobl all gyfarfod â’i gilydd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat.

Dywedodd Mark Drakeford yn y Senedd ddydd Mercher y bydd bywyd yn dychwelyd yn debyg iawn i sut y bu cyn pandemig Covid-19.

Serch hynny, dywedodd Mr Drakeford na fydd y llywodraeth yn "cefnu ar yr holl fesurau hynny sydd wedi gwneud cymaint i'n cadw ni i gyd yn ddiogel" dros y cyfnod diweddar.

Bydd y cyngor i weithio o adref lle bo'n bosib yn parhau tu hwnt i 7 Awst, a bydd yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o ardaloedd cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac eithrio lleoliadau lletygarwch a mannau addysgu.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mercher na fydd rhaid i bobl sy'n dychwelyd i wledyd ar restr oren teithio'r DU hunanynysu ar ôl dychwelyd i'r wlad os ydynt wedi cael eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19, yn dilyn yr un drefn â Lloegr.

Yn gynharach, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd un ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf.

Y newidiadau ar lefel rhybudd un

O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf, bydd hyd at chwe pherson yn cael cwrdd dan do, cyhyd y byddent yn cadw pellter cymdeithasol, gyda dim cyfyngiadau ar y nifer all gwrdd tu allan.

Mae'r Prif Weinidog hefyd yn dweud na fydd rhaid cadw pellter cymdeithasol tu allan o ddydd Sadwrn.

Fe fydd rhaid gwisgo mwgwd mewn mannau cyhoeddus ar ôl 17 Gorffennaf, ond mae'r Prif Weinidog yn dweud gall y rheolau lacio "wrth i’r risg iechyd cyhoeddus gilio".

Gall digwyddiadau sydd wedi’u trefnu dan do gael eu trefnu ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y gall canolfannau sglefrio iâ ailagor. 

Dywedodd Mr Drakeford: "Eich ymdrechion chi a gwaith caled ein brechwyr sydd wedi ein galluogi i lacio’r rheolau ymhellach a dechrau cynllunio i’r dyfodol.

"Diolch o galon i chi i gyd am barchu’r rheolau a dweud ‘ie’ i’r brechlyn – rydych wedi helpu i ddiogelu Cymru."

Mae'r Ceidwadwyr wedi croesawu'r diweddariad gan y llywodraeth, ond yn dweud fod y cyhoeddiad "yn well hwyr na hwyrach".

Dywedodd Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr: "Mae Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r eglurder hir-ddisgwyliedig hwn gan weinidogion Llafur, ac rydym yn falch eu bod wedi gwrando ar ein galwadau i gyhoeddi cynllun manwl ar gyfer llacio cyfyngiadau ac adfer rhyddid yng Nghymru.

"Er ein bod yn gresynu mai Llywodraeth Lafur Cymru oedd y llywodraeth olaf ym Mhrydain i gyhoeddi cynllun, mae’n achos o well hwyr na hwyrach, a bydd codi cyfyngiadau yn sicrhau y gallwn gael ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus ar y ffordd i adferiad.

"Ni fydd byth amser perffaith i godi’r holl gyfyngiadau ac yn anffodus ni ddaw unrhyw ddyddiad gyda dim risg, ond gyda’r brechlynnau’n gweithio, mae angen i ni ddechrau ar y gwaith pwysig o ailadeiladu economi Cymru."

Roedd Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Plaid Cymru, hefyd yn croesawu'r diweddariad yn y Senedd, gan ddweud bod y blaid yn cytuno ar barhau gyda'r rheolau ynghylch gwisgo mygydau.

"Dwi yn falch... ein bod ni yn symud tuag at godi rhagor o gyfyngiadau," dywedodd.

"Mae o'r peth iawn i wneud a dyna yde ni gyd eisiau wedi'r cyfan. Mae'n beth da i symud tuag at normalrwydd ond dwi'n cytuno efo'r dewis mae'r llywodraeth wedi ei wneud o ran pwyllo am ychydig wythnosau efo ambell beth sylfaenol wrth i nifer achosion gynyddu.

"Ac yn benodol, dwi'n falch y bod y llywodraeth wedi cytuno efo ni ym Mhlaid Cymru ac efo'r undebau Llafur ac ati y dylid parhau i'w gwneud hi'n ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb am y tro. Mae'n bwysig cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn gallu cael eu heintio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.