Newyddion S4C

Cynnydd mawr yn nifer y teithwyr ar drenau Trafnidiaeth Cymru

17/10/2024
Teithwyr Trafnidiaeth Cymru

Gwelodd Trafnidiaeth Cymru y cynnydd mwyaf  yn nifer y teithwyr o holl gwmniau trenau'r DU yn ystod y gwanwyn eleni - cynnydd o 27%.

Cafodd 7.6 miliwn o deithiau eu gwneud ar wasanaethau TrC rhwng Ebrill a Mehefin eleni, o'i gymharu â 6 miliwn yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Mae'r cwmni'n dweud bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y gwelliant; gan gynnwys cyflwyno trenau newydd, lansio gwasanaeth newydd rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd, ac ailagor llinell Treherbert. 

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol James Price: "Os edrychwch chi ar y niferoedd, rydyn ni'n gweld cynnydd mewn llawer o wahanol gymunedau, nid dim ond mewn un neu ddwy ardal.

"Mae hynny oherwydd gwaith caled cymaint o bobl i ddarparu gwasanaeth cyson a dibynadwy.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno nifer fawr o drenau newydd sbon wrth i ni fwrw ymlaen â’n hymrwymiad o £800 miliwn i uwchraddio ein fflyd.

"Dyfal donc a dyrr y garreg yw hi – rydym yn dyfalbarhau er mwyn gwneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru y gorau y gall fod, ac mae'n galonogol gweld mwy a mwy o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer eu bywydau bob dydd."

TrC oedd hefyd y cwmni trenau oedd wedi gwella fwyaf o ran lleihau canslo teithiau a bod yn ddibynadwy dros yr un cyfnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.