Mae marwolaethau ymysg pobl ddigartref ym Mhrydain wedi codi mwy na 12% mewn blwyddyn yn ôl grŵp sydd yn casglu data ar y sefyllfa.
Yn ôl The Museum of Homelessness mae ei hymchwil yn awgrymu bod o leiaf 1,474 wedi marw tra'n ddigartref ym Mhrydain yn 2023. 1,313 o farwolaethau gafodd eu cofnodi yn 2022.
O fewn y ffigyrau hynny fe welwyd cynnydd yn y marwolaethau ymhlith y rhai oedd yn cysgu ar y stryd - o 109 i 155 mewn blwyddyn.
Ers 2019 mae'r grŵp wedi bod yn casglu data trwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, cwestau crwneriaid a chofnodion coffa gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.
Wnaeth rhai cynghorau ddim ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Mewn bron i hanner y marwolaethau lle'r oedd modd gwybod sut y gwnaeth person farw roedd cyffuriau neu alcohol wedi chwarae rhan neu hunan laddiad.
Yn ôl Gill Taylor sydd yn arwain ar y prosiect mae'n "hynod o siomedig" bod rhai awdurdodau lleol ddim yn cyfri'r nifer o bobl ddigartref sydd yn marw yn eu hardaloedd.
"Mae'r dystiolaeth yn glir bod cyfri, adolygu a dysgu o'r marwolaethau yn allweddol er mwyn atal mwy o farwolaethau. Fe ddylai pob cyngor fod yn cofnodi'r nifer o bobl ddigartref sydd yn marw ac yn cymryd camau pwrpasol i atal hyn."
Mae cyd-gyfarwyddwr y prosiect, Matt Turtle wedi galw am gynnydd yn y gefnogaeth gan ddweud bod y system ar hyn o bryd yn 'racs'.
"Mae pobl yn marw ar y stryd ar gyfraddau brawychus. Yr unig ffordd i daclo'r argyfwng yma yw i gynyddu'r gefnogaeth ar gyfer llety sydd yn helpu'r rhai sy'n byw ar y stryd fel llochesi gaeaf."
Mae Llywodraeth y DU yn dweud: "Mae pob marwolaeth yn drychineb ac yn feirniadaeth ddamniol ar y cynnydd gwarthus ymysg y digartref yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy.
Maent yn dweud ei bod yn "gweithredu" trwy sefydlu grŵp trawsbleidiol er mwyn "datblygu strategaeth tymor hir i gael ni nol ar y llwybr cywir i ddiweddu digartrefedd."