Newyddion S4C

Bachgen saith oed yn dioddef anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan fws

13/10/2024
Moston Lane East

Mae bachgen saith oed wedi ei gadw yn yr ysbyty gydag anafiadau "a fydd yn newid ei fywyd” ar ôl cael ei daro gan fws ym Manceinion.

Dywedodd heddlu Manceinion eu bod yn ymchwilio i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 18:20 ddydd Sadwrn yng ngogledd y ddinas.

Roedd y bws wedi bod yn teithio ar hyd Moston Lane East cyn gwrthdaro â’r bachgen oedd yn cerdded, meddai’r heddlu.

Dywedodd swyddogion fod y bachgen wedi “dioddef anafiadau difrifol” a’i fod wedi ei gadw yn yr ysbyty ddydd Sul, gan ychwanegu bod ei anafiadau “yn cael eu disgrifio fel rhai sy’n newid ei fywyd ond ni chredir eu bod yn rhai sy’n bygwth bywyd”.

Ni chafodd unrhyw un ar y bws anaf, meddai'r heddlu.

Nid yw Transport for Greater Manchester wedi gwneud sylw hyd yma.

Llun: Safle'r ddamwain.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.