Menyw wedi marw ar ôl mynd dros fwrdd llong deithwyr oddi ar Ynysoedd y Sianel
12/10/2024
Mae menyw wedi marw ar ôl mynd dros fwrdd llong deithwyr oddi ar Ynysoedd y Sianel.
Dywedodd gwylwyr y glannau Ffrainc eu bod nhw wedi derbyn neges argyfwng gan y llong MSC Virtuosa toc wedi hanner nos ddydd Sadwrn ac fe gafodd hofrennydd ei ddanfon i helpu ynghyd â chychod ac awyren gwylwyr y glannau.
Dywedodd gwasanaeth chwilio ac achub Ffrainc fod y fenyw o’r MSC Virtuosa wedi’i chodi o’r môr gan griw hofrennydd ond fe gyhoeddwyd yn ddiweddarach gan feddygon ei bod hi wedi marw.
Mae ymchwiliad ar y gweill i’r farwolaeth gan heddluoedd Prydain a Ffrainc.