Carchar am oes i ddynes wnaeth lofruddio ei rhieni a byw gyda’u cyrff am bedair blynedd
Mae dynes a wnaeth lofruddio ei rhieni a byw gyda’u cyrff am bedair blynedd wedi cael ei dedfrydu i garchar am oes.
Dywedodd Virginia McCullough “cwyd dy galon, o leia’ rwyt ti wedi dal y person drwg” wrth gael ei harestio.
Fe wnaeth hi wenwyno ei thad John McCullough, 70 drwy roi meddyginiaeth yn ei ddiodydd alcoholig ym mis Mehefin 2019.
Y diwrnod canlynol fe wnaeth hi fwrw ei mam 71 oed Lois McCullough gyda morthwyl cyn ei thrywanu.
Cafodd ei charcharu am oes gyda lleiafswm o 36 mlynedd yn Llys y Goron Chelmsford ddydd Gwener.
Mae lluniau fideo a gyhoeddwyd gan yr heddlu yn dangos yr eiliad y cafodd McCullough ei arestio ar 15 Medi 2023.
Mae modd ei gweld yn cyfaddef i'r llofruddiaethau ac yn dweud wrth swyddogion lle’r oedd cyrff eu rhieni a’r arfau a ddefnyddiodd i ladd ei mam.
“Ro’n i’n gwybod y byddai hyn yn digwydd yn y pen draw, mae’n iawn fy mod i’n cael fy nghosbi,” meddai.
Ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddwbl, mae i’w gweld mewn gefynnau’n dweud wrth swyddog: “Cwyd dy galon, o leia’ rwyt ti wedi dal y person drwg.”
“Dwi’n gwybod nad wyf yn ymddangos yn 100% ddrwg,” ychwanegodd.
“Rwy’n amlwg yn haeddu beth bynnag sy’n dod o ran dedfryd os mai dyna’r peth iawn i’w wneud a gallai hynny roi ychydig o dawelech meddwl i mi.”
Clywodd y llys bod y ddynes 36 oed wedi cuddio cyrff ei rheini mewn beddrodau dros dro yng nghartref y teulu yn Great Baddow yn Essex.
Parhaodd i wario arian ei rheini gan godi dyledion mawr ar eu cardiau credyd.