Newyddion S4C

Criwiau’n carlamu i achub ceffyl o ffos

12/10/2024
Ceffyl mewn ffos

Bu’n rhaid i griwiau achub garlamu i fynd i roi cymorth i geffyl oedd wedi syrthio i ffos yn ardal Caerdydd.

Roedd angen offer achub dŵr ac anifeiliaid ar y criw er mwyn helpu’r anifail.

Roedd y ceffyl yn amlwg wedi blino ar ôl cwympo i’r ffos.

Fe lwyddodd y criwiau o Fro Morgannwg a gorllewin Caerdydd i’w dynnu allan o’r dŵr yn llwyddiannus heb unrhyw niwed iddo ac roedd yn ôl ar ei garnau ymhen dim.

"Fe wnaeth criwiau o Ddyffryn a Threlái ddefnyddio’r offer achub anifeiliaid mawr i achub y ceffyl o’r ffos,” meddai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Roedd yn dipyn o waith i'n criwiau ond llwyddwyd i roi'r ceffyl yn ôl ar ei garnau yn ddiogel.”

Image
Ceffyl mewn ffos

 

Image
Ceffyl mewn ffos

 

Image
Ceffyl mewn ffos

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.