Mam o Wynedd i dalu dros £5,000 yn ôl i’w nain ar ôl dwyn oddi wrthi
Mae mam o Wynedd wedi cael gorchymyn i dalu dros £5,000 yn ôl i’w nain ar ôl dwyn oddi wrthi bron i 70 o weithiau.
Roedd Donna Hughes, 40 oed, o Ffordd Wynne ym Mlaenau Ffestiniog yn aml yn helpu ei nain, Llywela Roberts, gyda’i siopa a’i bancio, clywodd Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn llysoedd barn Llandudno ddydd Gwener.
A hithau yn ei 80au, roedd yn rhaid i Ms Roberts dreulio cyfnod yn yr ysbyty wedi i’w hiechyd dirywio. Ar ôl ddychwelyd adref, roedd cyfrif banc Ms Roberts wedi’i gwagio a hithau bellach yn ddyledus iddyn nhw.
Roedd ei hwyres wedi cyfaddef ei bod wedi dwyn £5,100 ar y pryd, gan ddweud ei bod yn “le tywyll.” Maddeuwyd iddi.
Ond roedd Ms Hughes wedi parhau i ddwyn o’i nain wedi hynny.
Fe blediodd yn euog o dwyll rhwng Ebrill a Medi 2022.
Cafodd ei dedfrydu i chwe mis o garchar wedi’i ohirio gyda chyfnod o adferiad. Bydd yn rhaid iddi dalu’r arian yn ôl i’w nain yn ogystal.
'Cywilydd'
Roedd Ms Hughes yn dioddef gyda phroblemau yn ymwneud a chocên ac mi oedd yn wynebu problemau ariannol, dywedodd ei chyfreithiwr, Jemma Gordon.
“Mae ‘na chywilydd arni ac mae’n cydnabod bod angen iddi gael ei chosbi am hynny,” meddai.
Dywedodd y barnwr Timothy Petts bod Ms Hughes wedi defnyddio cerdyn banc ei nain 66 o weithiau, gan wario arian ar gyffuriau a diod.
Dywedodd bod ei nain wedi ymddiried ynddi a’i bod wedi manteisio ar hynny.
“Fe wnaethoch chi barhau hyd yn oed ar ôl i chi gael eich dal y tro cyntaf,” meddai.