
Brand Cymru: Hybu’r Gymraeg yn y byd ffasiwn trwy greu 'dillad anhygoel'
Brand Cymru: Hybu’r Gymraeg yn y byd ffasiwn trwy greu 'dillad anhygoel'
Mae cwmnïoedd ffasiwn yn ne Cymru yn ceisio "hybu'r Gymraeg" drwy gynnwys yr iaith a hanes a diwylliant Cymru ar eu dillad.
Ym Merthyr, Casnewydd a Bae Caerdydd mae cwmnïau wedi mynd ati i'w henwi eu hunain, eu dillad a'u casgliadau ar sail llefydd yng Nghymru a'r iaith Gymraeg.
Un o'r cwmnïoedd rheini yw Cambrensis, sydd yn golygu 'o Gymru' yn y iaith Lladin.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd sylfaenydd y cwmni, Ioan Bowen-Pickett ei fod yn angerddol dros greu dillad sydd yn hybu'r iaith Gymraeg.
"Ers oeddwn i'n ifanc roedd diddordeb ‘da fi mewn dillad dynion a hefyd gweithio mewn byd ffasiwn," meddai.
"Hefyd dwi’n dod o Gymru a dwi’n caru’r gwlad dwi’n dod o, felly roeddwn i wedi penderfynu pam ddim creu dillad, ond hybu’r Cymraeg hefyd a dyna sut roedd Cambrensis wedi cael ei geni."

Mae pob un o gasgliadau dillad y cwmni wedi eu henwi ar ôl ardal Merthyr neu'r Barri, ac mae'r delweddau ar eu cynnyrch gyda chysylltiad Cymreig.
Lamp oedd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr glo yn y 70au ac 80au yw logo'r cwmni.
Maen nhw hefyd wedi arddangos eu dillad yn Sioe Ffasiwn Lundain eleni.
"Mae pob casgliad wedi cael eu henwi ar ôl lle yn Cymru, mae’n bwysig i hybu hwnna a cael Cymru ar y map," meddai.
"Mae’r wlad ni’n dod o yn prydferth iawn, a pam ddim hybu hwnna trwy brand?
"Does dim unrhyw beth sydd yn dangos y Gymraeg fel ni. Pan oeddwn ni wedi 'neud Wythnos Ffasiwn Llundain, roedd llawer o bethau Affrican yna a llawer o Lloegr, a dwi ddim gweld llawer o Gymraeg ar y safon yna a dyna dwi eisiau gwneud, dwi eisiau hybu’r Gymraeg trwy gwneud dillad anhygoel hefyd."
'Creu trafodaeth'
Fe ddechreuodd Benjamin Shepphard cwmni Rhinwedd oherwydd ei fod eisiau creu crysau t o ansawdd y byddai ef yn gwisgo.
Wrth geisio darganfod crysau iaith Gymraeg dywedodd Benjamin wrth Newyddion S4C mai rhai gyda geiriau fel 'hoffi coffi' yn unig oedd yn gallu eu gweld ar y farchnad.
Roedd hefyd eisiau dysgu'r Gymraeg.
"Roeddwn i'n ceisio ymwneud â'r iaith gymaint a phosib, trwy ddysgu ar gyrsiau ar-lein, ond roedd e hefyd am weld yr iaith," meddai.
"Roeddwn i eisiau crysau neis o ansawdd dda oedd digwydd bod yn y Gymraeg, achos dwi'n meddwl bod yr iaith mor brydferth."

Bellach mae'r cwmni wedi gwerthu crysau a hwdis sydd â darluniau'r Fari Lwyd a'r daffodil ar draws y byd.
Mae hynny yn galluogi i'r byd weld y Gymraeg ac mae'r printiau ar gynnyrch Rhinwedd yn gallu creu sgwrs, meddai Ben.
Yn ogystal mae'n rhannu hanes Cymru gyda'r byd ehangach, ychwanegodd.
"Yn lle gwneud yr iaith yn rhwystr, mae'n ei gwneud yn rhan o'r drafodaeth," meddai.
"Ein crys hiraeth, mae'n crys neis, ond pe bai rhywun yn gofyn cwestiynau fe allai ddechrau sgwrs.
"Os oes gennych chi grys poblogaidd sydd digwydd bod yn y Gymraeg ac yn cael ei werthu i nifer o bobl gwahanol, mae hynny mynd i ddechrau sgwrs am 'o le wnaeth hwnna dod?' neu 'beth mae hwnna'n meddwl?'.
'Cysylltiad' gyda'r Gymraeg
Yn brosiect tu allan i'w waith o ddydd i ddydd mae Saul Wilks yn gwerthu cotiau a siacedi trwy ei gwmni Creu.
Wedi ei leoli yng Nghasnewydd mae'r casgliadau gwahanol wedi eu henwi ar ôl llefydd yn y ddinas lle y cafodd Saul ei fagu.
Er nad yw'n siaradwr Cymraeg roedd yn benderfynol o sicrhau bod gan yr iaith rhan ganolog yn ei waith a'r cwmni.

"Roeddwn i yn gweithio gyda rhywun o Loegr ar brosiect cynt, ac ar ôl i hwnnw ddod i ben roeddwn i eisiau fy hunaniaeth Gymreig ar y prosiect nesaf," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dydw i ddim yn siaradwr Cymraeg, ond dwi'n falch iawn o le dwi'n dod. Mae fy mab yn dysgu geiriau Cymraeg yn yr ysgol nawr a doedd hynny ddim o gwmpas pan oeddwn i'n tyfu fyny.
"Mae defnyddio enwau Cymraeg yn golygu bod pobl o gwmpas y byd yn gweld yr iaith a chysylltu honno gyda'ch cwmni, a dyna pam dwi'n ei defnyddio."
Nid yw Benjamin Shepphard o gwmni Rhinwedd yn siarad Cymraeg chwaith, ond mae wedi cynnwys blog ar ei wefan sydd yn cynnig cymorth i ddysgwyr Cymraeg yn ogystal â gwybodaeth ar ffigyrau hanes Cymru sydd ar ei gynnyrch.
"Y blog yw'r ochr treftadaeth o Rhinwedd," meddai.
"Gwneud yn siwr bod pethau yna i drafod, mae gan ein cynnyrch y gwybodaeth amdanyn nhw yn y blog.
"Felly yn lle ceisio ailadrodd gwybodaeth mae lle sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth perthnasol a beth mae'r crys neu hwdi yn cynrychiol a'i hanes yng Nghymru."