Newyddion S4C

Bachgen bach 'dewr' o Dregaron wedi marw o anafiadau pen mewn damwain

09/10/2024
Maldwyn 'Gwern' Evans

Efallai bod "dewrder" bachgen bach pedair oed wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth, meddai crwner yn y cwest i'r digwyddiad.

Bu farw Maldwyn Gwern Evans o Dregaron o anafiadau i'w ben wrth iddo geisio dal rowliwr gardd trwm oedd yn rhedeg i ffwrdd oddi wrtho i lawr allt.

Clywodd cwest ei bod hi'n debygol fod Gwern wedi taro'i ben yn erbyn concrit wrth geisio dal y rowliwr yn ôl.

"Efallai bod ei ddewrder wedi chware rhan yn hyn, am nad oedd eisiau gadael iddo [y rowliwr] fynd a'i fod wedi ceisio ei stopio," meddai'r crwner Peter Brunton.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd Mr Brunton ei fod yn "drasiedi bersonol enfawr i'r teulu."

Mewn datganiad i'r cwest, dywedodd ei fam, Sian Evans bod ei phlant wedi dod adref o'r ysgol ac wedi cael te ac hufen ia. Roedd Gwern allan yn yr ardd yn chwarae.

"Tra roeddwn i yn y gegin, fe glywais sŵn a meddwl ar unwaith mai'r rowliwr oedd e, a nes i redeg mas."

Roedd y rowliwr, oedd yn pwyso rhwng 50 a 60 cilogram wedi bod yn yr ardd ers rhyw ddwy flynedd.

"Doeddwn i erioed wedi gweld Gwern yn chwarae gyda'r rowliwr o'r blaen, ond roedd e wastad reit fusneslyd," meddai ei fam. 

"Roedd e'n eitha cryf a phenderfynol. Rwy'n dychmygu y galla fe fod wedi gallu cael e i symud."

Ychwanegodd Mrs Evans: "Mae'n golled anghredadwy, nid yn unig i mi, ei dad, a'i chwaer, ond i'r teulu cyfan a'r holl ffrindiau."

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.