Lemfreck yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024
Lemfreck ydy enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.
Cyhoeddodd y cyflwynydd BBC Radio 1, Sian Eleri, mai Lemfreck oedd yn fuddugol allan o 15 o artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm nos Fawrth, a hynny am yr albwm Blood, Sweet & Fears.
Derbyniodd wobr ariannol o £10,000 a thlws hefyd, gan guro artistiaid gan gynnwys Gruff Rhys a Cowbois Rhos Botwnnog.
Inline Tweet: https://twitter.com/welshmusicprize/status/1843762424417268089
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd: "Fel person ifanc du yn tyfu fyny, roedd fy rhieni yn dweud wrtha i yn gyson y byddwn i'n gallu gwneud unrhyw beth a bod yn unrhyw beth.
"Mae'r wobr hon ar gyfer fy nghymuned yng Nghasnewydd.
"Hoffwn i siarad am ba mor bwysig ydy cynrychiolaeth - nid 'tic bocs' ydy hyn pan mae artistiaid fel fi fy hun yn ennill gwobrau fel hyn- mae'n gadarnhad o gelfyddyd."
Llun: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 / X