Newyddion S4C

Crimewatch: Apêl am wybodaeth am ddyn o Ynys Môn

08/10/2024
peter lee

Fe gafodd achos dyn o Ynys Môn ei drafod ar raglen Crimewatch Live y BBC fore dydd Mawrth, wrth i'r heddlu apelio am wybodaeth amdano.

Roedd enw Peter Jason Lee ar restr 'Most Wanted' y rhaglen.

Mae'r heddlu'n chwilio am Mr Lee, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Peter Jason Jones, mewn cysylltiad â lladrad honedig o gartref dynes fregus ag oedrannus.

Digwyddodd y drosedd yn ardal Brynteg o Ynys Môn ar 23 Hydref, 2023.

Mae Mr Lee yn tua 49 oed ac yn mesur pum troedfedd wyth modfedd o daldra.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am leoliad Mr Lee i gysylltu gyda swyddogion gan ddefnyddio'r cyfeirnod CS2407-19583.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.