Newyddion S4C

Cyfarfod brys gan grŵp Plaid Cymru Gwynedd i drafod achos Neil Foden

08/10/2024
Gwynedd

Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi eu galw i gyfarfod brys nos Fawrth i drafod ymateb y cyngor i'r achosion o gam-drin rhywiol gan y cyn-brifathro Neil Foden.

Mae Newyddion S4C ar ddeall fod teimladau cymysg ymysg grŵp cynghorwyr Plaid Cymru yn y sir am y ffordd y mae'r cyngor wedi ymgymryd â'r ymchwiliad.

Mae rhai yn credu fod angen ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r ffaith na chafodd Foden ei atal, ar ôl i bryderon gael eu codi am ei ymddygiad i swyddogion y cyngor flynyddoedd cyn i'r heddlu ei arestio.

Mae adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i'r modd y deliodd Cyngor Gwynedd ag achos y troseddwr rhyw 67 oed.

Roedd Foden yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn iddo gael ei arestio ym mis Medi 2023. 

Cafodd ei garcharu ym mis Gorffennaf am 17 o flynyddoedd am gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair mlynedd.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal yr Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol i achos Foden, ac mae disgwyl i’r adolygiad dan gadeiryddiaeth Jan Pickles gael ei gynnal am dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Image
Garem Jackson

Wedi i'r llys gael y cyn-bennaeth yn euog o 19 trosedd yn erbyn plant yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ar y pryd ei bod yn "anhygoel fod Foden wedi gallu parhau i droseddu" wedi i gŵyn gael ei gwneud amdano yn 2019. 

Roedd athro wedi mynegi pryder wrth bennaeth addysg y sir ar y pryd, Garem Jackson, am "agosatrwydd" Neil Foden at rhai plant.

Ond dywedodd Mr Jackson mai'r cwbl yr oedd wedi ei wneud mewn ymateb oedd cael "gair anffurfiol" gyda Mr Foden a'i "gynghori". 

Ni chafodd cofnod o'r sgwrs honno ei chadw. 

Dywedodd Mr Jackson wrth y llys wrth gael ei holi fel tyst at 30 Ebrill ei fod wedi cael cyngor gan swyddog arall "nad oedd angen ymchwiliad ffurfiol" i ymddygiad Mr Foden.

Image
Neil Foden

Wythnos ddiwethaf, fe ddyfarnodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o blaid cwyn yn erbyn Cyngor Gwynedd mewn cais am wybodaeth yn ymwneud â Foden, wedi i'r cyngor fethu ag ymateg i geisiadau gan Newyddion S4C dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. 

Roedd Newyddion S4C wedi gofyn i'r cyngor yn y cais am bob gohebiaeth rhwng un o uwch swyddogion y cyngor a'r cyn-bennaeth addysg Garem Jackson rhwng Mai a Mehefin 2019 lle'r oedd unrhyw gwynion a honiadau yn erbyn Neil Foden yn cael eu trafod. 

Roedd pryderon am ymddygiad Neil Foden wedi dechrau yn ystod y cyfnod yma.

Ddydd Llun fe gafod Newyddion S4C ateb gan y cyngor wedi pum mis o ofyn yn gyson am y wybodaeth.

Roedd y wybodaeth yma yn nodi bod Foden yn parhau i gael ei gyflogi gan y cyngor am gyfnod o wythnos yn ystod ei achos llys, cyn iddo ymddiswyddo.

Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu â grŵp Plaid Cymru am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.