Oedi llety i fam o'r Wcráin yn 'rhwystredig'
Mae mam o'r Wcráin sydd yn byw mewn hostel gyda'i mab yn dweud ei bod yn rhwystredig gyda'r oedi i gael symud i'w llety newydd.
Ar hyn o bryd mae Kateryna Gorodnycha a'i mab, Timur yn byw mewn hostel un ystafell.
Mae wedi bod yn disgwyl am fisoedd am newyddion ynglŷn â phryd y bydd y llety newydd sy'n cael ei ddarparu gan y cyngor wedi ei orffen.
Hen safle ysgol gynradd yn Llanilltud Fawr yw'r lleoliad ar gyfer y 90 o unedau dros dro ar gyfer ffoaduriaid o'r Wcráin.
Roedd Cyngor Bro Morgannwg wedi dweud y byddai pobl yn dechrau symud i'r safle ddiwedd yr haf ond mae teuluoedd fel un Kateryna yn dal i ddisgwyl.
'Dim bwrdd i astudio'
Yn ôl yr awdurdod lleol mae'r oedi wedi digwydd am fod un o'r cwmnïau oedd yn darparu'r unedau wedi mynd i'r wal.
"Mae'n sefyllfa rwystredig iawn," meddai Kateryna.
Pan wnaeth hi a'i mab 15 oed ffoi o Kyiv yn 2022 fe wnaethon nhw fyw yn nhŷ rhywun arall. Ond bu'n rhaid iddyn nhw symud allan ym mis Gorffennaf.
Ers hynny maen nhw wedi bod yn byw mewn hostel ar gyfer teuluoedd o'r Wcráin yn y Barri.
"Mae ein bywydau ni i gyd yn yr un ystafell fach yma. Mae gyda ni un ystafell. Dim un ystafell wely, un ystafell...
"Allwn ni ddim symud yma. Mae fy mab yn yr ysgol, yn ysgol Bont-faen...dyna pam na allwn ni symud ymhellach i ffwrdd o'r ardal yma a does ganddo fo ddim hyd yn oed bwrdd i astudio."
Gwrthwynebu'r safle
Mae rhai trigolion wedi gwrthwynebu'r safle yn Llanilltud Fawr gan ddweud bod yr unedau rhy agos at eu gerddi.
Roedd y cyngor wedi cael caniatâd i ddefnyddio'r safle i ddechrau trwy bwerau cynllunio arbennig. Roedd hynny yn golygu nad oedd yn rhaid iddynt gael caniatâd cynllunio.
Yn ôl y rhai sydd yn byw wrth ymyl y safle fe ddylen nhw fod wedi cael gwybod am y cynlluniau a sut y byddent yn effeithio arnyn nhw.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth mae cyfres o e-byst wedi eu cyhoeddi sy'n dangos bod aelod Cyngor Bro Morgannwg dros Lanilltud Fawr, y Cynghorydd Gwyn John wedi “atal” rhag dweud wrth drigolion am yr hyn oedd yn digwydd ar safle’r hen ysgol.
Ond yn ôl y cynghorydd doedd o ddim yn gallu dweud wrth drigolion beth oedd yn digwydd am "nad oedd penderfyniad wedi ei wneud" ar y safle.
Erbyn hyn mae'r awdurdod lleol wedi cael caniatâd cynllunio i gadw'r safle am gyfnod o o leiaf bum mlynedd.
Dyw Kateryna ddim wedi gweld tu fewn iddynt ond dyw hynny ddim yn bwysig iddi meddai.
"Rydyn ni wedi profi lot yn y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf felly dyw e ddim wir yn bwysig i fi pa mor neis ydyn nhw ond maen le i ni fyw. Lle arwahan ac fe allwn ni wneud cynlluniau. Y peth mwyaf brawychus yw peidio gallu gwneud cynlluniau."
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg "mae'r oedi o safbwynt symud pobl yn bennaf wedi ei achosi am fod un o'r cwmnïau oedd yn darparu'r cartrefi wedi mynd i'r wal.
"Fodd bynnag y disgwyl yw bydd y safle yn barod i'w ddefnyddio o fewn ychydig wythnosau."