Rhieni bachgen a gafodd ei saethu ar fferm yn rhoi teyrnged i'w mab 'direidus'
Mae rhieni bachgen wyth oed a fu farw ar ôl cael ei saethu ar fferm wedi rhoi teyrnged i'w mab a oedd yn "garedig ac yn llawn direidi".
Cafodd Jay Cartmell anafiadau i'w ben a'i wyneb ar dir ger ffordd yr A66, i'r gogledd o Warcop, yn Cumbria, yng ngogledd Lloegr ar 28 Medi.
Cafodd dyn yn ei chwedegau ei arestio ar y safle a'i holi ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mewn datganiad trwy Heddlu Cumbria, dywedodd rhieni Jay, Leigha a James Cartmell, bod eu calonnau wedi torri: “Roedd yn gariadus, caredig ac yn llawn direidi, y bachgen gorau y gallai unrhyw un ei ddymuno.
"Ein bachgen bach perffaith - Jay Cartmell, wyth oed.
“Roedd Jay wrth ei fodd y tu allan, y mwyaf mwdlyd, y gorau. Ac roedd yn dilyn ôl troed ei dad ac yn mwynhau rasio beiciau modur, speedway.
“Roedd Jay yn yrrwr talentog ei hun ac yn dangos addewid yn y gamp”.
Dywedodd y teulu hefyd fod Jay yn mwynhau pysgota a hel cwningod gyda'i dad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r saethu am tua 14:50 ar 28 Medi.
Cafodd Jay Cartmell o Frizington, Cumbria, ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty gerllaw lle bu farw yn ddiweddarach.