De Affrica yw’r 'gwerth gorau am arian ar gyfer gwyliau pell'
De Affrica yw’r gwerth gorau am arian ar gyfer gwyliau pell i deithwyr o'r DU, yn ôl adroddiad newydd.
Gostyngiad yng ngwerth arian De Affrica, y rand, a phrisiau rhatach yno, sy'n gyfrifol am hynny.
Mae prisiau 12% yn is i ymwelwyr o’r DU ers hydref 2023, yn ôl ymchwil gan gwmni arian teithio Swyddfa’r Post.
Dinas Cape Town yw’r gwerth gorau am arian allan o 32 o gyrchfannau a dinasoedd a gafodd eu dadansoddi yn yr astudiaeth flynyddol.
Mae prisiau arferol yn cynnwys £1.63 am baned o goffi, £1.81 am botel o gwrw lleol, a £33.31 am bryd tri chwrs gyda’r nos i ddau, gyda photel o win tŷ.
Prifddinas Japan, Tokyo oedd yr ail gyrchfan pellter hir oedd â'r gwerth gorau am arian, ac yna Hoi An, Fietnam, a ddaeth i'r brig y llynedd.
Ar ben arall y raddfa, Sydney, Awstralia, oedd y drutaf, gyda chostau i deithwyr bron deirgwaith yn fwy i ymwelwyr o'r DU nag yn Cape Town.
Oherwydd cynnydd yng ngwerth y bunt, gall pobl y DU sy’n cynllunio gwyliau haul y gaeaf ddisgwyl talu llai na blwyddyn yn ôl mewn mwy na hanner y cyrchfannau a gafodd eu harolygu
Dywedodd pennaeth arian teithio Swyddfa’r Post, Laura Plunkett: “Datgelodd ein hymchwil amrywiadau eang mewn costau i dwristiaid ar draws y 32 o gyrchfannau a gafodd eu harolygu gennym.
“Gall ymwelwyr arbed llawer o arian a gwneud gwahaniaeth mawr i gost gyffredinol eu taith trwy wneud rhywfaint o waith cartref cyn archebu, i ddarganfod ble mae prydau bwyd, diodydd a nwyddau eraill yn rhatach.”