Nigel Owens yn ennill gwobr ffermio genedlaethol
Mae'r cyn-ddyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens wedi ennill gwobr ffermio genedlaethol.
Fe enillodd Mr Owens y wobr 'Pencampwr Ffermio'r Flwyddyn' yng Ngwobrau Farmers Weekly yr wythnos hon.
Ar ôl dyfarnu rhai o'r gemau rygbi mwyaf, gan gynnwys Ffeinal Cwpan y Byd 2015 rhwng Awstralia a Ffrainc, fe wnaeth ymddeol yn 2020 gan roi cyfle iddo ganolbwyntio yn fwy ar ei fferm ym Mynyddcerrig yn Sir Gâr.
Wrth ymateb i'w lwyddiant yn ennill y wobr, dywedodd Mr Owens: "Mae hyn yn gymaint o fraint. Ond dwi'n derbyn y wobr ar ran yr holl ffermwyr sy'n gweithio'n galed i fwydo'r genedl."
Inline Tweet: https://twitter.com/Nigelrefowens/status/1842102356382470538
Mae wedi siarad yn gyhoeddus am y diciâu, neu TB hefyd.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Pawb a'i Farn yn 2023, dywedodd nad oes "dim esgus mwyach" i beidio mynd i'r afael â'r diciâu, neu TB mewn gwartheg.
"Bydd e'n ofid, byddai'n colli cwsg amdano fo. Mae'n hen bryd bod rhywbeth yn cael ei wneud amdano fe, does dim esgus mwyach," meddai.
Roedd yna Gymry eraill yn fuddugol yn y gwobrau hefyd, gan gynnwys Dylan Jones o fferm Castellior ar Ynys Môn a enillodd y wobr Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn.
Enillodd Logan Williams o fferm Tirmynydd yn Sir Gâr y wobr am Fyfyriwr Amaeth y flwyddyn.
Rheinallt a Rachel Harries o fferm Llwynmendy Uchaf yn Sir Gâr oedd enillwyr gwobr Ffermwr Llaeth y Flwyddyn.