Newyddion S4C

'Sgwennu wedi fy nghynnal i' wrth ddelio â chanser y fron

'Sgwennu wedi fy nghynnal i' wrth ddelio â chanser y fron

“Fe esblygodd o ac fe ddatblygodd o yn ddull o fy nghynnal i drwy gyfnodau eithaf tywyll.”

Wedi i Rhian Wyn Griffiths o Gaerdydd dderbyn diagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2021, fe aeth ati i gofnodi ei thaith mewn cyfres o ddyddiaduron.

Ar ôl teimlo lwmp yn ei bron ym mis Chwefror 2021 a chadarnhad fis yn ddiweddarach ei fod yn ganser, dechreuodd Rhian ar driniaeth ar dabledi am naw mis.

Wedi iddi gael gwybod nad oedd y tabledi wedi llwyddo i leihau'r lwmp, fe gafodd lawdriniaeth lwmpectomi ym mis Ionawr 2022 cyn gorfod cael llawdriniaeth mastectomi i godi'r fron ar ddydd San Ffolant 2022. 

Ar ôl codi'r fron, dechreuodd ar chwe thriniaeth cemotherapi cyn mynd ymlaen i dderbyn wythnos lawn o radiotherapi ym mis Medi 2022. 

"Ma'i 'di bod yn dipyn o daith, dwi dal ar y daith honno oherwydd dwi yn Felindre bob tri mis yn cael chwistrelliad a chwrs o galsiwm bob chwe mis a'r holl nod ydy trio atal y canser rhag dychwelyd i'r corff," meddai wrth Newyddion S4C. 

Image
Derbyniodd Rhian Griffiths ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2021.
Derbyniodd Rhian Griffiths ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mawrth 2021. 

Fe wnaeth Rhian gadw dyddiaduron o’i thaith ganser yn ystod y cyfnod heriol. 

“Ma’ pob un person â’u ddull o ymdrin â heriau bywyd,  ma’ rhai wrth gwrs yn gallu tynnu llunie, ma’ rhai yn gallu mynd at biano a chyfansoddi. I fi, oedd trin geirie a ‘sgwennu yn rhywbeth fuodd o help i fi, ac oedd sawl un yn fy annog i neud hyn," meddai wrth Newyddion S4C.

“Un o’r dulliau nes i oedd cadw dyddiadur ag ar y dechre, o’n i jyst yn nodi fy nheimlade, yn teimlo yr hyn o’n i wedi ei wneud yn y dydd, ond mi dyfodd y peth mewn ffordd."

Ychwanegodd: "Mewn ffordd, fe esblygodd o ac fe ddatblygodd o yn ddull o fy nghynnal i drwy gyfnodau eithaf tywyll cemotherapi ac yn rhywbeth roddodd ryddhad i fi a rhywbeth mewn ffordd nath neud i mi deimlo ‘mod i’n cael gwared o’r emosiynau oedd yn corddi yna i hefyd.”

'Siwrne pawb yn wahanol'

A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth o ganser y fron ym mis Hydref, mae’r dyddiaduron wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfrol o’r enw Lwmp. 

“Beth ydy Lwmp ydy cofnod o’n siwrne i, a ma’ siwrne pawb yn wahanol a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig iawn tanlinellu hynny,” meddai Rhian. 

“Hynny yw, ma’ pob un person a pob un ffrind dwi ‘di siarad gyda nhw wedi wynebu falle’r un un canser ond mae eu taith a’u triniaeth nhw wedi bod yn wahanol a cofnod o fy nhriniaeth i ydy o, gan obeithio y bydd o help i eraill sy’n cael yr un newyddion sydd yn ysgwyd eu byd nhw.”

Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd 2952 o achosion newydd o ganser y fron yn y flwyddyn 2021. 

Canser y fron ydy'r canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un ddynes yn derbyn diagnosis bob 10 munud, yn ôl elusen Breast Cancer Now. 

Yn ôl yr elusen, mae'r canser yn parhau yn un o 'brif heriau iechyd y DU' yn yr oes sydd ohoni.

Image
Rhian Griffiths
Rhian yn gadael Ysbyty Felindre ar ôl ei thriniaeth radiotherapi olaf ym mis Medi 2022.

Roedd ysgrifennu yn gyfle i Rhian i ddod i delerau â’r diagnosis. 

“Does na’m ffordd o wneud i’r teimlad fod yn rhywbeth gwell nag ydi o, be’ o’n i’n deimlo oedd yn bwysig ydy bod rhywun yn ysgrifennu’r hyn oedd o neu hi yn ei deimlo,” meddai. 

“I fi, dyna sut o’n i’n gweld y byd yn y cyfnod yna. Dydw i ddim yn arbenigwr meddygol ac nid llawlyfr meddygol ‘mo Lwmp ond beth oedd y dyddlyfr i fi oedd cyfle i fi drio dod i’r afael â’r hyn o’n i’n glywed.

“Ges i sawl apwyntiad a rollercoaster o’n i’n galw’r profiad oherwydd fuodd ‘na sawl cyfnod lle oedd ‘na heria ychwanegol yn dod ar hyd y daith.”

'Dinoethi fy hun mewn print'

Gobaith Rhian ydy cynnig cysur i eraill sy’n wynebu sefyllfa debyg.

“Ma’n rhyfedd yndydi – ma’ pobl yn deud wrtha fi bo’ fi wedi bod yn ddewr iawn yn eu rhannu nhw, bo’ nhw’n onesd iawn ac yn gignoeth, ac fy mod i wedi yn llythrennol dinoethi fy hun mewn print mewn ffordd,” meddai. 

“Dwi ddim yn meddwl amdana fo fel yna oherwydd i fi, jyst cofnod gonest ydy o felly i fi, fyswn i ddim wedi cyhoeddi nhw heblaw bod pobl wedi deud wrtha fi y bysa nhw o help i eraill. 

“Os ydyn nhw yn mynd i helpu unrhyw un sydd yn cael y diagnosis yma, mi fydda i’n falch a mi fydda i’n teimlo fy mod i gobeithio wedi gafael yn llaw rhywun arall ar hyd y daith.”

Image
Rhian yn darllen ei dyddiaduron
Mae Rhian wedi codi £25,000 ar gyfer Ysbyty Felindre.

Mae Rhian yn gobeithio rhannu ei phrofiad er mwyn dangos bod yna obaith er yr anobaith ar adegau. 

“Dwi’n gobeithio be’ ma Lwmp yn ei wneud ydy dangos y gynhaliaeth a’r flanced o gariad ma’ rhywun yn ei gael gan deulu a gan ffrindia, a falle y strategaethe ma' rhywun yn gallu mynd i’r afael â nhw er mwyn trio dod allan o’r twnel sy’n ymddangos fel twnel eithaf tywyll a du ar adegau," meddai. 

“Ond doedd o ddim yn brofiad chwerwfelys hyd yn oed oherwydd does ‘na ddim un ffordd o wneud i ddiagnosis fel hyn ymddangos yn well, ond bod rhywun yn ymateb iddo fo mewn dull positif a bod rhywun yn benderfynol o fod isio byw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.