Newyddion S4C

Cyngor yn croesawu erlyniad ffermwraig am achosi ‘dioddefaint di-angen’ i dda byw

Defaid / Tim Troseddau Cefn Gwlad HGC

Mae Cyngor Sir Powys wedi atgoffa ffermwyr am y canlyniadau wrth “achosi dioddefaint” i dda byw.

Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid yr awdurdod wedi anfon y nodyn atgoffa ar ôl iddynt erlyn ffermwraig o ogledd y sir am achosi “dioddefaint diangen a methu â darparu gofal digonol” i ddefaid a gwartheg ar ei fferm.

Roedd Martha Heulwen Davies, 85 oed, o Fferm Moelpart, ger Llangadfan, wedi pledio’n euog i sawl trosedd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Cafodd y diffynnydd ddedfryd o 24 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am flwyddyn, gan Lys Ynadon Llandrindod wythnos diwethaf.

Cafodd y ffermwraig hefyd ei gwahardd rhag ymwneud â da byw, gan gynnwys cadw a delio â da byw mewn unrhyw ffordd. Daw'r gorchymyn gwahardd i rym ar 1 Ionawr 2025 er mwyn rhoi tri mis i'r diffynnydd gael gwared â'i da byw.

Cafodd orchymyn hefyd i dalu £1,600 o gostau, a £154 yn ychwanegol at hynny.

Anifeiliaid yn 'cael eu bwyta'n fyw'

Clywodd y llys am y troseddau difrifol, oedd yn cynnwys achosion eithafol o gynrhon (maggots), lle'r oedd anifeiliaid yn crynu am eu bod yn cael eu bwyta'n fyw gan gynrhon, a oedd yn bla ar groen y defaid.

Roedd 76 o ddefaid wedi eu gadael yn sychedig oherwydd nad oedd digon o ddŵr ar gael. Fe wnaeth 11 o ŵyn ddioddef o ddiffyg maeth a chyflyrau corff cronig oherwydd nad oedd digon o borthiant a dŵr ffres iddyn nhw.

Nid oedd darpariaeth ddigonol i fuwch a'i llo chwaith, tra bod dwy ddafad wedi’u gadael yn gorwedd, i farw heb ddŵr, porthiant na gwellt gwely.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Ni fyddwn yn caniatáu i achosion o ddioddefaint fel hyn ddigwydd heb fod yna gosb amdanynt.

"Rydym yn croesawu'r dedfrydu gan y llys ac mae hyn yn rhybudd clir i'r gymuned ffermio y bydd arferion fel hyn yn golygu y byddwn yn gwneud cais am orchmynion gwahardd i atal troseddwyr rhag cadw da byw. 

"Fe wnaeth ein Tîm Iechyd Anifeiliaid gymryd y troseddau o ddifrif a gweithredu, a hynny'n briodol, sydd wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn. Os byddwn yn dod ar draws achosion tebyg i hyn yn y dyfodol, byddwn yn erlyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.