Newyddion S4C

Tanygrisiau: Dyn yn ‘rhyfeddol o ffodus’ ar ôl syrthio dros 100 troedfedd i lawr siafft chwarel

Tanygrisiau

Roedd dyn yn “rhyfeddol o ffodus” wedi iddo syrthio dros 100 troedfedd i lawr siafft chwarel yn Nhanygrisiau, Gwynedd gyda mân anafiadau yn unig.

Fe gafodd y dyn ei achub gan grŵp o ddringwyr a glywodd ei alwadau am help ac a lwyddodd i ddringo i lawr i’w helpu.

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn eu bod nhw wedi eu galw yno wedi hynny, a bod y dyn wedi dioddef cleisiau a chrafiadau yn unig.

Cafodd yr achubwyr eu galw am 18.00,  ddydd Sadwrn 24 Awst.

“Ar ôl cyrraedd, daeth y tîm ar draws y dyn oedd wedi ei anafu yn ymlwybro i lawr y bryn gyda grŵp o ogofwyr / dringwyr a oedd wedi clywed ei alwadau am gymorth,” meddai llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn.

“Roedden nhw wedi mynd i’w helpu, gyda’r offer technegol wrth law, a’u harbenigedd dringo.

“Roedd y dyn oedd wedi ei anafu yn rhyfeddol o ffodus i fod yn cerdded ar ôl y fath gwymp gyda chleisiau a chrafiadau yn unig.

“Diolch i'r dringwyr a oedd yn digwydd bod gerllaw, lwyddodd i gyrraedd diogelwch mor gyflym.

“Diolch i aelodau Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru a ddaeth i'n cynorthwyo er nad oedd eu hangen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.