Newyddion S4C

Lewis Hamilton: 'Dwi wedi dioddef iselder ers yn ifanc'

30/09/2024
Lewis Hamilton

Mae'r gyrrwr F1 Syr Lewis Hamilton wedi dweud ei fod wedi dioddef o iselder ers oedran ifanc iawn.

Ers cychwyn ei yrfa mae Syr Lewis wedi ennill 105 ras grand prix, y mwyaf yn hanes camp F1.

Dywedodd wrth The Sunday Times ei fod wedi dioddef gydag iselder trwy gydol ei fywyd.

"Dwi wedi dioddef gydag iselder ers i fi fod yn ifanc iawn, tua 13 oed," meddai.

"Dwi'n meddwl y gwnaeth e ddechrau oherwydd pwysau rasio, cael fy mwlio yn yr ysgol. Doedd gen i neb i siarad â nhw." 

Ychwanegodd ei fod wedi mynd at therapydd am gyfnod ond nad oedd hynny wedi helpu. 

Dechreuodd ei yrfa yn F1 pan oedd yn 22 oed, ond ar yr un pryd roedd ei iechyd meddwl yn fregus. 

"Pan oeddwn i yn fy 20au cynnar, fe wnes i brofi cyfnodau hynod o anodd.

"Dwi wedi bod yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl trwy gydol fy holl fywyd."

'Clirio'r meddwl'

Dros y misoedd diwethaf mae Syr Lewis Hamilton yn dweud bod ei iechyd corfforol a meddyliol wedi gwella.

Mae ei ddiwrnod arferol yn dechrau trwy godi am 05:00, myfyrio a rhedeg 10 cilomedr, sydd yn gyfle iddo "glirio'r meddwl."

Ychwanegodd mai dyma'r iachaf mae erioed wedi teimlo.

"Dwi'n meddwl fy mod i'n yrrwr gwell nawr nag yr o'n i yn 22 oed."

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.