Pryderon am gwsmeriaid yn gwrthod gwisgo mygydau

Pryderon am gwsmeriaid yn gwrthod gwisgo mygydau
Mae perchennog siop deuluol yn Eglwyswrw yn Sir Benfro wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod cwsmeriaid sy'n gwrthod gwisgo mygydau yn broblem ddyddiol.
Yn ôl Sian Jones mae pobl wedi ei thrin hi a staff yn “gas” ac yn pryderu y bydd y sefyllfa yn gwaethygu yn ystod misoedd prysur yr haf.
"Ma' pobl wedi mynd yn selfish ofnadw gyda'r Covid 'ma," meddai.
"Ma' nhw yn meddwl bod e gyd drosto, i ni'n cael biti un neu ddau achos y dydd, i ni'n cael rhai sy'n gallu mynd yn eithaf cas tuag atom ni.
"Ma' fe yn 'upsetio' dyn achos ma' nhw'n gwybod yn well na ni, ma' nhw'n gwybod shwt i redeg siop yn hunan yn well na beth ydw i'n gwybod shwt i redeg siop yn hunan."
Mae Sian Jones hefyd yn poeni nad yw ymwelwyr o Loegr yn ymwybodol bod y rheolau yn wahanol yng Nghymru.
Dewis personol fydd hi i wisgo mwgwd yn Lloegr o 19 Gorffennaf ymlaen.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y bydd angen gwisgo mwgwd o hyd ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn ysbytai, ac mae disgwyl iddynt wneud cyhoeddiad ddydd Mercher yn amlinellu beth fydd y drefn mewn siopau a bwytai.