Carcharu dyn o Ynys Môn am dorri gorchymyn camdriniaeth ddomestig
Mae dyn o Ynys Môn wedi’i garcharu wedi iddo dorri gorchymyn camdriniaeth ddomestig yn ei erbyn.
Roedd Tom Webster, 40 oed o Deras Victoria yng Nghaergybi, yn bresennol mewn eiddo ar 16 Medi er iddo gael ei atal rhag mynd i mewn i’r adeilad yn gynharach y flwyddyn.
Cafodd ei atal rhag gwneud ym mis Mai fel rhan o orchymyn i ddiogelu dioddefwr yr oedd wedi’i gam-drin.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn ac fe gafodd ei garcharu am gyfnod o chwe wythnos.
Dywedodd Rhingyll yr adran cymorth ranbarthol Heddlu Gogledd Cymru, Chris Burrow, fod Tom Webster wedi “diystyried” gorchymyn llys oedd mewn grym er mwyn ei atal ef rhag cysylltu â’i ddioddefwr.
“Ni fyddwn yn goddef hynny ac mi fyddwn yn mynd ar ôl y rheiny sy’n ceisio achosi niwed a thrallod i aelodau bregus o’r gymuned," meddai.