Un o adeiladau mwyaf adnabyddus Abertawe yn ail-agor ei ddrysau
Bydd un o adeiladau mwyaf adnabyddus Abertawe yn ail agor ei ddrysau mewn chwe wythnos ar ôl cael ei ailwampio.
Mae Theatr y Palas, sy’n 136 oed, wedi bod ar gau ers blynyddoedd mewn dwylo preifat nes i gyngor y ddinas benderfynu ei adfer.
Bydd yr adeilad chwe llawr yn cael ei ddefnyddio gan gwmni Tramshed Tech pan fydd yn agor ar 7 Tachwedd.
Bydd ganddo hefyd siop goffi a fydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae Tramshed Tech eisoes yn cynnal gofodau busnes yng Nghasnewydd, Caerdydd a'r Barri.
Y gobaith yw y bydd yn denu busnesau newydd sydd eisiau gofod, a hyfforddiant sgiliau busnes.
Dywedodd prif weithredwr Tramshed Tech, Louise Harris, ei bod yn “anrhydedd” etifeddu’r adeilad.
“Mae’r tirnod hanesyddol hwn yn cael ei drysori gan y gymuned leol ac mae wedi bod yn rhan adnabyddus o Abertawe ers dros ganrif,” meddai.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol i sicrhau ein bod ni’n parchu hanes yr adeilad a’i etifeddiaeth wrth ei addasu ar gyfer y dyfodol.”
Adfer
Mae rhai o nodweddion yr adeilad rhestredig gradd dau, fel y balconi haearn a theils llawr, wedi’u cadw ac mae’r tu allan i raddau helaeth fel ag yr oedd 136 mlynedd yn ôl.
Cafodd ei adeiladu ym 1888 am ychydig llai na £10,000, sef tua £1m yn arian heddiw.
Mae wedi bod yn neuadd gerddoriaeth ac yna dros y blynyddoedd yn neuadd bingo a chlwb nos.
Mae'r gwaith adfer gwerth £10 miliwn a mwy wedi'i ariannu gan y cyngor, gyda chymorth grant o £4.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae tua 60 o weithwyr wedi bod ar y safle ar adegau prysur ers i'r gwaith ddechrau dair blynedd yn ôl.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Tramshed Tech wedi cyhoeddi dyddiad agor yn y Palas – a’i arbed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Bydd ein gwaith – ac arbenigedd Tramshed Tech – yn rhoi bywyd newydd i’r Palas. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn ailagor fel canolfan i bobl leol sy’n rhedeg busnesau yno.
“Bydd yn ffordd o helpu i adfywio canol y ddinas a’i hardal Stryd Fawr sydd wedi gweld degau o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn y blynyddoedd diwethaf.”