Rhybudd am lifogydd a thoriadau pŵer posib yn ne a chanolbarth Cymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer glaw trwm a mellt a tharanau yn ne a chanbolarth Cymru ddydd Iau a dydd Gwener.
Roedd disgwyl tywydd garw yn hwyrach ddydd Iau ond maen nhw bellach yn rhybuddio am law trwm yn gynharach yn y diwrnod.
Roedd yr heddlu yn rhybuddio fore Iau bod ffordd Fabian Abertawe ar gau oherwydd llifogydd.
Gallai rhai ardaloedd weld 40-60 mm o law mewn ychydig oriau, medden nhw, a allai fod yn ddigon i achosi llifogydd.
Mae siawns fach y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, a gallai cymunedau gael eu hynysu gan ffyrdd sydd dan ddŵr.
Mae perygl hefyd o doriadau pŵer, meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Gwiriwch a allai eich eiddo fod mewn perygl o lifogydd,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd. “Os felly, ystyriwch baratoi cynllun llifogydd a phecyn llifogydd brys.
“Rhowch y cyfle orau i chi'ch hun o osgoi oedi trwy wirio cyflwr y ffyrdd os ydych chi'n gyrru, neu amserlenni bysiau a threnau, gan newid eich cynlluniau teithio os oes angen.
“Mae pobl yn ymdopi'n well â thoriadau pŵer pan maen nhw wedi paratoi ar eu cyfer ymlaen llaw.
“Mae’n werth ystyried casglu torshis a batris, pecyn pŵer ffôn symudol ac eitemau hanfodol eraill.”
Siroedd
Mae’r rhybudd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg