Rhybudd fod Covid-19 yn lledaenu’n gyflym yng Nghymru
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhybuddio fod achosion o Covid-19 yng Nghymru yn dwblu pob wythnos yng Nghymru.
Yn ôl Dr Frank Atherton, mae hyn yn golygu fod person sydd wedi’u heintio yn mynd ymlaen i heintio o leiaf dau berson arall.
Roedd Dr Atherton yn annerch cynhadledd i’r wasg ddydd Llun, gyda’r dirprwy brif swyddog meddygol, Dr Gillian Richardson yn ymuno ag ef.
Rhybuddiodd Dr Richardson, sy’n gyfrifol am y cynllun brechu yng Nghymru, fod pobl ifanc yn agored i niwed oherwydd lefelau isel o frechiadau.
Dywed: “Dim ond 75% o bobl rhwng 18 a 39 sydd wedi derbyn y dos cyntaf. Mae hyn yn golygu nad yw un ym mhob pedwar o’r grŵp hyn wedi’u hamddiffyn.”
'Gwanhau ond nid yn torri'r cysylltiad'
Fe aeth ymlaen i egluro fod y brechlyn wedi “gwanhau’r cysylltiad” rhwng achosion, marwolaethau a salwch difrifol, ond fod y cysylltiad yna “heb ei thorri”.
Yn ddiweddarach ddydd Llun, fe ddywedodd yr Athro John Watkins fod y brechlyn wedi llwyddo i “dorri’r” cysylltiad hwn.
Roedd disgwyl i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan gynnal y gynhadledd, ond daeth cadarnhad gan y llywodraeth ei bod yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad ag unigolyn sydd wedi’u heintio gyda Covid-19.
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod y gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl ar gyfartaledd yng Nghymru yn 136.1.
Mae’r gyfradd ar ei huchaf yn y gogledd ddwyrain, gyda Wrecsam yn 329.5, Sir y Fflint yn 212, a Sir Ddinbych yn 185.
Cafodd 1,190 o achosion eu cadarnhau ddydd Llun, ond ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi.
Cadarnhaodd Dr Atherton fod y gyfradd R yng Nghymru yn oddeutu 1.8 a 1.9.
Dyma un o’r cyfraddau uchaf i’w cofnodi ers dechrau’r pandemig.