Newyddion S4C

‘Siom enbyd’ wedi i gloc tref Llanbedr Pont Steffan gael ei ‘fandaleiddio'

25/09/2024
Cloc Llanbed

Mae “siom enbyd” yn nhref Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion wedi i gloc neuadd y dref gael ei “‘fandaleiddio'n ddifeddwl”.

Roedd cyngor y dref wedi sicrhau grant i lanhau a phaentio'r cloc, gan olygu bod sgaffaldiau wedi eu codi o amgylch neuadd y dref.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys rybuddio am beryglon dringo sgaffaldiau yn y dref.

Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd Cyngor y dref: “Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi ei siomi’n enbyd i adrodd ar ôl yr holl waith caled sydd wedi bod ynghlwm â sicrhau grant i adfer cloc Neuadd y Dref, ei fod wedi cael ei fandaleiddio'n ddifeddwl. 

“Dringodd unigolyn, neu grŵp o unigolion, y sgaffaldiau a thorri i mewn i'r tŵr, gan dorri'r gwydr hynafol a thorri bysedd y cloc gan achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod i dirnod eiconig Llanbed.

“Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y drosedd hon, cysylltwch â Heddlu Llanbedr Pont Steffan sy'n ymchwilio i'r drosedd neu gysylltu ag aelod o'r Cyngor Tref.”

Yr wythnos diwethaf dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: “Ni ddylai neb fod yn dringo unrhyw sgaffaldiau oherwydd y risgiau o gwympo a brifo. Bydd ein swyddogion yn patrolio’r ardal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.