Newyddion S4C

'Balchder' dynes o Fôn wrth i bobl dderbyn organau ei phartner wedi ei farwolaeth

24/09/2024

'Balchder' dynes o Fôn wrth i bobl dderbyn organau ei phartner wedi ei farwolaeth

"I've got no words to say, thank you for your donation."
 
Llythyr sy'n gysur, llythyr o ddiolch gan un sydd wedi derbyn organ gan ddyn ifanc o Fôn.
 
"Pedwar o'i organau na'th gael eu rhannu.
 
"Pedwar bywyd ond i fi dw i'n teimlo bod teuluoedd nhw wedi elwa hefyd.
 
"Gwybod bod 'na ddarn bach ohono fo yn dal i fynd yn rhywle mae o'n gysur mawr i mi.
 
"'Swn i'n gallu byrstio efo faint o browd dw i ohono fo.
 
"Mae o'n ia. Rhywbeth arbennig.!"
 
Mae colli Macauley Owen ac yntau ond yn 26 oed yn friw agored i'w deulu.
 
Fis Ionawr llynedd, cafodd Macauley ei anafu'n ddifrifol ar fferm.
 
Dridiau yn ddiweddarach, bu farw.
 
Yn yr ysbyty yn Stoke, cafodd ei deulu wybod ei fod ar y rhestr cyfrannu organau.
 
"Mae'r ffaith fod o wedi arwyddo'r rhestr ddwywaith dros ei hun i fi a'i deulu, teimlo bod o'n rhywbeth oedd o'n hapus i wneud.
 
"I orfod gwneud ffasiwn benderfyniad mewn ffasiwn sefyllfa mae o'n anodd.
 
"Ond mae'r ffaith fod o ar y rhestr yn neud y penderfyniad yn haws i ni.
 
"Oedd o'n ofnadwy o ffeind.
 
"Oedd o bob tro'n deud, 'gei di rywbeth ti isio gynno fi.'
 
"Hogyn fel 'na oedd o."
 
Ers 2015 yng Nghymru, mae'n cael ei ystyried bod oedolion yn barod i gyfrannu organau oni bai eu bod yn datgan nad ydyn.
 
Mae gan deuluoedd allu i wneud penderfyniad terfynol.
 
Mae Cymru ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill gwledydd Prydain o ran y ganran sydd ar y rhestr cyfrannu organau.
 
Dyna pam ei bod hi, yn ôl arbenigwyr iechyd, yn bwysig i bobl wneud eu dymuniadau yn glir.
 
"Mae'r consent rate yn isel ym Mhrydain a Chymru.
 
"Y broblem ydy bod pobl ddim yn siarad am roi organau digon.
 
"Mae mor bwysig i bobl gael y sgwrs rhag i rywun siarad drostoch chi."
 
"Good boy."
 
Drwy'r tristwch ym Môn, mae 'na falchder hefyd bod pobl eraill wedi cael bywyd drwy organau Macauley Owen.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.