Teyrngedau yn dilyn marwolaeth Arglwydd Faer Caerdydd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn marwolaeth Arglwydd Faer Caerdydd.
Bu farw'r Cynghorydd Jane Henshaw wedi’i hamgylchynu gan ei theulu yn ystod y penwythnos.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Caerdydd bod y Cynghorydd Henshaw yn gadael etifeddiaeth o "ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus" ar ei hôl.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae marwolaeth y Cynghorydd Jane Henshaw yn golled fawr i Gaerdydd. Roedd yn hyrwyddwr diflino dros ein dinas a'i thrigolion, gan ymdrechu bob amser i wneud Caerdydd yn lle gwell i bawb.
“Ni chaiff ei hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus ei anghofio, a bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod.”
Rhannodd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, ei chydymdeimlad, gan ddweud: "Roedd Jane yn esiampl o obaith a charedigrwydd yn ein cymuned. Roedd ei gwên yn heintus ac yn goleuo bywydau pawb oedd yn ei chyfarfod.
"Roedd ganddi allu unigryw i gysylltu â phobl a gwneud iddyn nhw deimlo'n werthfawr."
Rhoddodd Prif Weithredwr y cyngor, Paul Orders, deyrnged iddi hefyd, gan ddweud: "Gadawodd caredigrwydd a gras y Cynghorydd Henshaw, a'i awydd i helpu'r rhai mewn angen, farc annileadwy ar bawb a oedd yn ei hadnabod.
"Roedd ei chefnogaeth i staff heb ei hail. Mae ein meddyliau gyda'i theulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Cynrychiolodd y Cynghorydd Henshaw ward Sblot ac roedd wedi bod yn gwasanaethu fel cynghorydd Llafur ers 2017.
Mae'r Cynghorydd Henshaw yn gadael ei phartner Bill, pedwar o blant a phump o wyrion ac wyresau.
Fel arwydd o barch, bydd baneri’n chwifio ar hanner mast o adeiladau’r cyngor ledled Caerdydd, wrth i’r ddinas nodi ei marwolaeth.
Hoffai ei theulu ddiolch i holl staff Ysbyty Athrofaol Cymru, Canolfan Ganser Felindre a Hosbis Marie Curie am eu cefnogaeth, gofal a charedigrwydd.