Rhybudd melyn am law i'r mwyafrif o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i'r mwyafrif o Gymru ddydd Llun.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 00:00 tan 23:59.
Daw'r rhybudd yn dilyn cyfnod o dywydd ansefydlog i Gymru dros y dyddiau diwethaf, gan ddod â chyfnod o dywydd braf i ben.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai llifogydd arwain at amodau gyrru anodd, gyda siawns fach y gallai cymunedau gwledig gael eu hynysu yn sgil llifogydd ar y ffyrdd.
Gall oedi arwain at wasanaethau trên a bws yn cael eu canslo hefyd, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar bob sir heblaw am Ynys Môn a Sir Benfro.
Fe gafodd rhybudd melyn am dywydd stormus i Gymru gyfan ei gyhoeddi ar gyfer dydd Sadwrn, a hynny wedi rhybudd melyn blaenorol am fellt, gwynt a chenllysg i rannau o Gymru ddydd Gwener.