Newyddion S4C

Menyw a gollodd ei brawd i lid yr ymennydd yn annog myfyrwyr i gael eu brechu

23/09/2024
Bobbie Lee / Ann Aveyard photography

Mae menyw o Ben-y-bont ar Ogwr a gollodd ei brawd i lid yr ymennydd yn annog myfyrwyr i gael eu brechu rhag yr haint.

Yn 14 oed, fe wnaeth Bobbie Lee golli ei brawd mawr Morgan yn 16 oed i lid yr ymennydd.

Llid ar leinin yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn yw llid yr ymennydd sy'n gallu gwaethygu’n gyflym iawn. Mae'n gallu achosi i bobl golli eu clyw a’u golwg a datblygu ffitiau ac anawsterau dysgu. Mewn rhai achosion, gall achosi marwolaeth.

Roedd Morgan wedi dechrau profi symptomau ffliw ar ôl bod allan gyda'i ffrindiau ond fe waethygodd ei symptomau'n sydyn.

Fe ddechreuodd chwydu a datblygodd gur pen difrifol, gan gael ei gludo i'r ysbyty ar frys.

Er gwaethaf ymdrechion y meddygon i'w achub, bu farw'r diwrnod canlynol.

'Achub bywydau'

Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau cyn mynd i'r brifysgol dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r brechiadau'n helpu i osgoi salwch difrifol fel llid yr ymennydd a'r frech goch.

Ar ôl colli ei brawd yn ifanc, mae Bobbie yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechiadau.

Ar adeg salwch Morgan, nid oedd y brechiad yn rhan o’r amserlen imiwneiddio plentyndod arferol — fe gafodd ei gyflwyno yn ddiweddarach, yn 2015. 

Mae Bobbie yn credu pe bai’r brechlyn hwn wedi bod ar gael y gallai fod wedi achub bywyd ei brawd.

"Fel rhywun sydd wedi profi effaith ddinistriol llid yr ymennydd, allai ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i flaenoriaethu eich iechyd," meddai.

"Cymerwch eiliad i wneud yn siŵr eich bod wedi cael eich holl frechiadau a’ch bod yn deall symptomau llid yr ymennydd. 

"Mae’n gam bach, ond fe allai achub eich bywyd neu rywun rydych chi’n ei garu."

'Brechiadau yn hanfodol'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y brechiadau y derbynion nhw pan oedden nhw'n blentyn er mwyn lleihau eu risg o salwch difrifol, gan gynnwys llid yr ymennydd a'r frech goch.

Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod cael brechiad yn "ffordd ddiogel ac effeithiol o atal lledaeniad clefydau difrifol".

"Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i gael eu brechu cyn iddynt gyrraedd y campws neu cyn gynted â phosibl ar ôl cyrraedd," meddai.

"Mae prifysgolion yn amgylcheddau lle gall heintiau ledaenu'n gyflym oherwydd bod nifer mawr o bobl yn byw'n agos at ei gilydd."

Ychwanegodd: “Dyw llawer o bobl ifanc ddim yn gwybod eu hanes brechu. Mae'n hanfodol i fyfyrwyr sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn fel y gallant ganolbwyntio ar fwynhau eu profiad yn y brifysgol.”

Mae prif symptomau llid yr ymennydd yn cynnwys:

  • Twymyn sy'n dechrau'n sydyn
  • Cur pen
  • Gwddf anystwyth 
  • Brech ar y croen 
  • Chwydu
  • Cyfraddau cyflymach y galon ac anadlu
  • Anhawster anadlu
  • Dryswch meddyliol

 

Mae symptomau'r frech goch yn cynnwys:

  • Symptomau tebyg i annwyd
  • Llygaid coch sy'n brifo
  • Tymheredd uchel
  • Brech flotiog frowngoch
  • Smotiau gwyn bach yn y geg

 

Llun: Ann Aveyard Photography

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.