Gwrthod cais dadleuol i adeiladu 80 o dai mewn dau bentref yn Sir Gâr
Mae cynlluniau i adeiladu 80 o dai mewn dau bentref yn Sir Gâr wedi cael eu gwrthod.
Roedd Cyngor Sir Gâr yn bwriadu adeiladu 35 o dai i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin yn Nantgaredig a 44 o dai i'r gogledd-orllewin o Lanelli yn Nhrimsaran.
Fe gafodd y cais ar gyfer cynlluniau Nantgaredig ei gyflwyno bron i bedair blynedd yn ôl ond roedd gwrthwynebiad chwyrn iddyn nhw.
Byddai chwech o'r 35 o dai wedi bod yn dai fforddiadwy, gyda'r 29 arall yn dai tair, pedair a phum ystafell yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored.
Yn ôl datganiad ar ran yr ymgeiswyr Life Property Group Ltd, byddai'n rhaid cael cyffordd 'T' ar Ffordd yr Orsaf.
Ond roedd trigolion yn bryderus am effaith y datblygiad ar draffig y ffordd.
Roedd nifer hefyd yn honni y byddai'r datblygiad yn cynyddu poblogaeth y pentref o draean, gan ei newid er gwaeth.
Fe wnaeth 130 ohonyn nhw arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Mae'r cynlluniau bellach wedi eu gwrthod ar y sail nad oedd yr ymgeiswyr wedi arwyddo cytundeb cyfreithiol gyda’r cyngor sir i gyfrannu at addysg a phriffyrdd, darparu mannau hamdden oddi ar y safle, a darparu 20% o dai fforddiadwy.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgeiswyr eu bod yn siomedig.
“Rydym yn parhau’n ymrwymedig i weithio’n agos gyda’r cyngor a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a sicrhau bod ein prosiectau’n cyd-fynd ag anghenion a disgwyliadau’r gymuned,” meddai.
“Rydym yn canolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu sawl safle yn Sir Gâr, lle’r ydym yn anelu at ddarparu opsiynau tai o ansawdd uchel i drigolion lleol.”
'Undonog'
Roedd y cynlluniau ar gyfer 44 o dai yn Nhrimsaran ger Cae Linda, i'r de o Ysgol Gymunedol Trimsaran.
Byddai naw o'r 44 yn dai fforddiadwy gyda dwy, tair a phedair ystafell, yn ôl datganiad cynllunio ar ran yr ymgeiswyr UKPI (Trimsaran) Ltd.
Fel rhan o ganiatâd cynllunio, fe ofynnodd Cyngor Cymuned Trimsaran a fyddai cytundeb cyfreithiol rhwng y datblygwr a’r cyngor sir yn gallu darparu cyllid ar gyfer maes chwarae yn y prif barc a neuadd les y glowyr.
Fe wrthododd adran gynllunio’r cyngor y cais ar y sail na fyddai’n cynnal ac yn gwella glaswelltir corsiog, a oedd yn cael ei ddisgrifio fel un sy’n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, ac nid oedd yn dangos sut y byddai gwyrddni newydd yn cael ei ymgorffori, nac yn cynnwys arolwg o goed a gwrychoedd presennol.
Dywedodd swyddogion cynllunio hefyd fod y stad dai “wedi’i dylunio’n wael”, gan arwain at “ymddangosiad undonog”.
Mae pensaer yr ymgeiswyr wedi cael cais am sylw.