Newyddion S4C

Cyhuddo dyn 59 oed o ddwyn diesel o 'werth uchel' yng Ngwynedd

20/09/2024
Talysarn

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhuddo dyn 59 oed o ddwyn diesel o "werth uchel" o ardal Talysarn, Gwynedd, yn oriau man bore Gwener.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn o Gaernarfon hefyd wedi ei gyhuddo o nifer o ladradau diesel eraill a ddigwyddodd ym mis Medi.

"Wrth i ni wynebu'r gaeaf, rydym yn dymuno atgoffa cymunedau lleol i fod yn wyliadwrus o unrhyw weithgaredd amheus," meddai llefarydd ar ran y llu.

"Mae'n bwysig bod ardaloedd penodol o amgylch eich cartref, fel tanciau olew, yn cael eu diogelu a'u gosod gyda mesurau diogelwch, fel teledu cylch cyfyng a systemau larwm."

Llun: Google Maps
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.