Newyddion S4C

Siop yng Nghaernarfon yn gorfod talu bron i £13,000 am werthu nwyddau anghyfreithlon

Allanol Supercigs Caernarfon

Mae busnes yng Nghaernarfon wedi cael gorchymyn i dalu dirwy a chostau o bron i £13,000 am werthu a chyflenwi tybaco ac e-sigarét anghyfreithlon. 

Clywodd llys fod swyddogion cudd o Gyngor Gwynedd wedi cynnal prawf-brynu yn Siop Gyfleustra Supercigs ar Stryd Llyn yng Nghaernarfon ar 26 Medi y llynedd, pan wnaeth y siop werthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon i un o'r swyddogion.

Mewn ymweliad diweddarach â'r busnes yr un diwrnod, daeth swyddogion Safonau Masnach o hyd i  225 o becynnau sigarét anghyfreithlon, 63 becynnau o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon, 519 o fêps un-tro anawdurdodedig a halwynau nicotin, ac 20 o nwyddau PRIME anawdurdodedig.

Fe wnaeth hyn arwain at bum cyhuddiad yn cael eu cyflwyno yn erbyn Supercigs Convenience Store Ltd.

Ddydd Mercher ymddangosodd Mr Idres Khder, cyfarwyddwr y cwmni, gerbron Llys Ynadon Caernarfon a phledio'n euog i bum cyhuddiad. 

Derbyniodd y cwmni ddirwy o o £9,062.20, yn ogystal â gorchymyn i dalu costau o £1,751.48 i'r cyngor a gordal dioddefwr o £2,000. 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: "Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus yn y nwyddau maen nhw’n eu prynu o siopau a busnesau’r sir.

 “Mae’r achos hwn yn dangos ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri, ac rwy’n falch o weld erlyniad safonau masnach lwyddiannus mewn perthynas â gwerthu a chyflenwi tybaco anghyfreithlon a e-sigarét. Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.