Marwolaethau bwa croes: Cyhuddo dyn o lofruddio
Mae dyn 26 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio tri aelod o deulu’r sylwebydd rasio John Hunt mewn ymosodiad bwa croes yn eu cartref.
Bu farw Carol Hunt, 61 oed, Hannah Hunt, 28 oed, a Louise Hunt, 25 oed, yn Bushey, Sir Hertford, yn dilyn yr ymosodiad ar 9 Gorffennaf.
Mae Kyle Clifford bellach wedi’i gyhuddo o lofruddio’r fam a’i dwy ferch ddydd Mawrth, medd Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ddau achos o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant ac un achos o garcharu ar gam.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster fore Mawrth drwy gyswllt y we.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol brynhawn dydd Mawrth.
Yn ôl Lisa Ramsarran, prif erlynydd y goron ar gyfer ardal Thames a Chiltern mae eu “meddyliau yn parhau gyda theulu’r Hunt a phob un sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad trasig yma.”
'Cyfiawnder i'r teulu'
Ychwanegodd na ddylai unrhyw wybodaeth all effeithio “hawl y diffynnydd i achos llys teg” gael ei rhannu yn y cyfryngau nac ar-lein.
Fe gafodd Kyle Clifford ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaethau ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ardal Hilly Fields yn Enfield, gogledd Llundain, ddiwrnod wedi’r ymosodiad.
Ond doedd yr heddlu ddim yn gallu siarad gyda Kyle Clifford ar y pryd tra oedd yn derbyn triniaeth am ei anafiadau yn yr ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Nick Gardner o uned droseddau Swydd Bedford, Swydd Gaergrawnt a Swydd Hertford: “Er ei bod wedi cymryd peth amser i ni gyrraedd y cam hwn, fe allwn ni bellach symud ymlaen â’r broses farnwrol a cheisio sicrhau cyfiawnder i’r teulu."
Mae John Hunt a’i ferch arall, Amy eisoes wedi rhoi teyrnged i’w deulu ac wedi diolch i bobl am eu negeseuon o gymorth a chefnogaeth.