Apêl am wybodaeth wedi i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i yrrwr beic modur farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys fore dydd Llun.
Derbyniodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys adroddiad o wrthdrawiad ar ffordd y B4393 ger pont Llandrinio tua 07.20.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng fan Vauxhall wen a beic modur Kawasaki du.
Bu farw gyrrwr y beic modur ar ôl y digwyddiad.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae disgwyl i’r ffordd aros ar gau tan yn ddiweddarach ddydd Llun tra bod swyddogion yn cynnal ymchwiliad o'r safle.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4393 ger pont Llandrinio ar y pryd i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20240916-038.
Llun: Google