Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi i ddyn farw o’i anafiadau yn Abertawe

14/09/2024
Joshua Norman

Mae dyn 49 oed o Abertawe wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 27 oed yn y ddinas yn gynharach yn yr wythnos.

Fe ymddangosodd  Paul Rosser, o Gendros, yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn, wedi ei gyhuddo o lofruddio Joshua Norman.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.

Bu farw Mr Norman ar ôl iddo gael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol yn Cwm Road, Hafod, tua hanner dydd ddydd Mercher, 11 Medi.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo: “Roedd Joshua yn fab, tad, brawd ac ewythr cariadus a oedd yn poeni’n fawr am ei deulu i gyd.

“Roedd yn berson hardd y byddai ei wên a'i synnwyr digrifwch yn goleuo unrhyw ystafell ac unrhyw galon.

“Byddwn yn gweld ei eisiau’n ofnadwy ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon i alaru am golli ein mab annwyl.”

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 31 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Ychwanegodd y llu fod dau ddyn arall yn eu 30’au, a gafodd eu harestio hefyd, yn cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.