Cyhuddo cyflwynydd The Repair Shop o drosedd yn erbyn ei wraig
Mae cyflwynydd y BBC, Jay Blades, wedi’i gyhuddo o drosedd yn erbyn ei wraig.
Mae'r cyhuddiad yn un o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol (controlling or coercive behaviour).
Fe ymddangosodd Mr Blades, sydd yn wyneb adnabyddus i wylwyr rhaglen The Repair Shop, o flaen Llys Ynadon Kidderminster ddydd Gwener wedi iddo gael ei gyhuddo o un achos o reolaeth drwy orfodaeth yn erbyn perthynas agos neu aelod o’r teulu.
Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â’i wraig, Liza Zbozen, medd dogfennau’r llys.
Mewn datganiad ar ei chyfrif Instagram ar 2 Mai, fe gyhoeddodd Ms Zbozen bod ei pherthynas gyda Jay Blades wedi dod i ben.
Roedd Heddlu Gogledd Mersia wedi cadarnhau fod Mr Blades, 54 oed, wedi ei gyhuddo o’r drosedd ddydd Iau. Dywedodd hefyd eu bod wedi cael eu galw i eiddo ddiwrnod wedi i Ms Zbozen gyhoeddi ei datganiad ym mis Mai.
Priododd y pâr ym Marbados ar 22 Tachwedd, 2022.
Bydd Jay Blades bellach yn ymddangos yn Llys y Goron Caerwrangon ar 11 Hydref ar gyfer gwrandawiad ple.
Sylw
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Mercia bod Mr Blades bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth gyda disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerwrangon ar ddydd Gwener, 11 Hydref.
Mae asiantaeth newyddion PA wedi dweud ei fod ar ddeall na fydd ailddarllediad o raglen David & Jay’s Touring Toolshed yn cael ei chynnwys yn rhan o amserlen y BBC nos Wener.
Fe gafodd Jay Blades ei anrhydeddu gyda MBE yn 2022 am ei wasanaeth i grefft.
Daeth i sylw cyhoeddus fel cyflwynydd The Repair Shop yn 2017, rhaglen sydd yn ei ddilyn ef wrth iddo drwsio ac adnewyddu hen ddodrefn.
Mae hefyd wedi ymddangos ar Celebrity Masterchef a Celebrity Bake Off.
Llun: Aaron Chown/PA Wire