Newyddion S4C

'Braf bod nôl': Y band o Fôn sy'n ail-ffurfio wyth mlynedd yn ddiweddarach

14/09/2024

'Braf bod nôl': Y band o Fôn sy'n ail-ffurfio wyth mlynedd yn ddiweddarach

'Ma'n teimlo'n grêt bo' ni nôl efo'n gilydd.'

Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Williams o Ynys Môn ydy aelodau y band 'Cordia', ac wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae'r band wedi penderfynu ail-ffurfio.

Fe gafodd Cordia ei sefydlu bron i ddegawd yn ôl, ond mae'r tair wedi ail-ffurfio'r band eleni, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. 

Dywedodd Ffion Wynn: "Ma'n teimlo'n grêt bod ni 'di ail-ffurfio, bo' ni nôl efo'n gilydd, 'dan ni 'di cael lot o hwyl hyd yma.

"Dwi jyst yn meddwl bod o'n anodd coelio bo' 'na wyth mlynadd 'di bod ers i ni ganu efo'n gilydd ddwytha ond ma'n teimlo fatha ddoe," meddai Manon.

Ychwanegodd Ffion Elin: "'Dan ni'n rili gobeithio neith pobl fwynhau y caneuon newydd, ma' 'na lot fwy i ddod a 'dan ni'n edrych ymlaen am y dyfodol."

Image
Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Roberts ydy aelodau y band Cordia
Ffion Elin Davies, Ffion Wynn Davies a Manon Fflur Williams ydy aelodau y band Cordia.

O Cân i Gymru i'r Ŵyl Ban Geltaidd, fe gafodd y band gryn dipyn o lwyddiant ar ddechrau eu taith. 

Dywedodd Ffion Wynn: "Gath Cordia ei ffurfio tra oeddan ni yn ysgol yn neud TGAU, oeddan ni wedi canu efo'n gilydd mewn corau yn ysgol, cystadlu mewn Eisteddfodau a ballu a wedyn natho ni ffurfio'r band i gystadlu yn Brwydr y Bandiau.

"Atho ni ymlaen i rownd derfynol, perfformio yng Nghaernarfon a wedyn ymlaen i berfformio ar Llwyfan y Maes, a wedyn atho ni 'mlaen i gystadlu ag ennill Cân i Gymru."

Ychwanegodd Manon: "Dwi'n meddwl bod o hyd at heddiw dal yn un o'r petha' gora' 'dan ni erioed 'di neud fatha genod ifanc a jyst band ifanc, o'dd o'n rwbath mawr i ni allu gwblhau.

"Wedyn mynd ymlaen i ennill yr Ŵyl Ban Geltaidd so o'dd o'n teimlo fel achievement mawr." 

Image
Y band yn perfformio
Y band yn perfformio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn 2016.

Yn gynharach eleni, fe benderfynodd y band i ail-ffurfio, gan ryddhau eu sengl newydd gyntaf, 'Sylw', yr wythnos hon.

Dywedodd Ffion Elin: "Ddechra flwyddyn yma, oeddan ni efo'n gilydd ag oeddan ni'n meddwl 'pam nawn ni ddim cychwyn Cordia nôl?' achos ma'r dair ohona ni bellach nôl yng ngogledd Cymru a jyst colli perfformio a canu efo'n gilydd.

"Gatho ni cyfarfod cynta ni mis Mawrth ag o'dd o'n benderfyniad hawdd a pan natho ni estyn allan at Rhys Jones, fo sy'n cyd-sgwennu efo fi a chynhyrchu caneuon efo ni, ag oedd o wedi bod yn meddwl am yr un peth hefyd so oedd o fatha bod o'n ffawd."

Mae'n bwysig cael cynrychiolaeth o ferched yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn ôl y merched. 

"Dwi'n meddwl ers i ni fod yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ddwytha, ma'r sîn yn bendant wedi esblygu, ma' 'na fwy o ferched, Eadyth, Mared, Adwaith, sy'n ferched cryf sy'n sgwennu ac ysbrydoli lot o ferched ifanc i sgwennu," meddai Ffion Elin.  

"Dwi'n meddwl ma'n bwysig bo' ni'n cael mwy o bobl ifanc yn sgwennu petha newydd achos ma' gen bawb eu stori, ma' gen bawb eu syniad bach eu hunain, felly fyswn i jyst yn annog mwy o bobl i sgwennu, yn bendant, ma' isio mwy o ferched."

Mae gan y band gynlluniau cyffrous ar gyfer y misoedd nesaf.

Dywedodd Ffion Wynn: "Ma' 'na fwy o gerddoriaeth i ddod, sengl newydd yn dod i fyny yn fuan so gwyliwch allan. Ma' genno ni gig cyntaf ni hefyd mis nesaf so 'dan ni'n rili cyffrous i neud hynna, ag ella bach yn nerfus, so jyst mwy o gerddoriaeth a wedyn gigio o flwyddyn nesa ymlaen so lot mwy i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.