'Mae'n rhan ohona fi': Josh Navidi yn 'ailgydio' yn y Gymraeg gyda chymorth Ken Owens
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi wedi cael cymorth y cyn-flaenwr rhyngwladol a’i gyd-Lew Ken Owens i “ailgydio” yn yr iaith Gymraeg.
Gobaith Navidi, sydd wedi cynrychioli ei wlad 33 gwaith ar y cae rygbi, yw magu hyder i siarad ei famiaith heb orfod troi i’r Saesneg, meddai.
Daw ei ymdrechion fel rhan o gyfres newydd Iaith ar Daith, a fydd yn dychwelyd i’r sgrin fach nos Sul.
“Mae Mam yn siarad Cymraeg - mae hi’n siarad gyda fi yn Gymraeg ond dwi’n ateb yn Saesneg,” esboniodd.
“Dwi eisiau ailgydio yn fy Nghymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn rhan ohona i, ond mae jest angen yr hyder i ddatgloi hynny a medru siarad gyda phobl yn yr iaith.”
Gwreiddiau
Yn ystod y gyfres newydd o Iaith ar Daith, bydd chwe seleb yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o’r iaith, a hynny yng nghwmni mentor sydd hefyd yn wyneb adnabyddus.
Mentor Josh Navidi, fydd yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth iddo, yw ei ffrind Ken Owens ‘Y Sheriff’.
Yn Llanddona, Sir Fôn y mae taith Navidi yn cychwyn – ardal sy’n agos at ei galon gan mai yno roedd ei Nain yn byw.
Symudodd ei dad o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, gan gwrdd â’i fam, a hithau’n wreiddiol o Ynys Môn, ym Mangor.
Ymysg y tasgau sy’n ei wynebu ar ei daith mae gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm Principality, a hynny oll drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dysgu
Cyn i'r selebs ddechrau ar eu taith eleni, cafodd pob unigolyn ddeuddydd dwys o ddysgu un wrth un gyda thiwtor Say Something in Welsh, cyn parhau i wneud 20 awr o ddysgu’n annibynnol gyda chwrs y mudiad.
Dywedodd Aran Jones, Prif Weithredwr Say Something in Welsh bod “cynnydd cyson” wedi bod yn y nifer o bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddal i gefnogi mwy a mwy o bobl i ddod yn siaradwyr hyderus,” meddai.
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau er mwyn dysgu’r Cymraeg, ewch i wefan S4C.