Newyddion S4C

Y pensiwn gwladol i gynyddu £460 yn 2025

10/09/2024
Cynhesu dwylo oer. Llun gan Peter Byrne / PA

Mae disgwyl i'r pensiwn gwladol gynyddu £460 y flwyddyn o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd hyn yn digwydd oherwydd y clo triphlyg (triple lock) sef ymrwymiad y bydd y pensiwn yn codi bob blwyddyn i'w gymharu â chyflogaeth, chwyddiant neu 2.5%.

Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn golygu y bydd y rhai a gyrhaeddodd oed pensiwn gwladol ar ôl Ebrill yn derbyn £230.05 yr wythnos, sef £11,962.60 y flwyddyn, gan olygu cynnydd o £460.

Bydd y pensiwn gwladol ar gyfer y rhai a gyrhaeddodd oed pensiwn gwladol cyn Ebrill 2016 yn cynyddu i £176.30, sef £9,167.60 y flwyddyn, gan olygu cynnydd o £353.60.

Daw hyn wedi beirniadaeth ynglŷn â phenderfyniad y Llywodraeth Lafur i ddileu Taliadau Tanwydd y Gaeaf i'r rhan fwyaf o bensiynwyr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.