James Earl Jones, llais Darth Vader, wedi marw yn 93 oed
Mae James Earl Jones, yr actor oedd yn fwyaf enwog am leisio cymeriad Darth Vader yn y gyfres Star Wars, wedi marw yn 93 oed.
Bu farw fore Llun wedi’i amgylchynu gan ei deulu, meddai ei asiant Barry McPherson.
Roedd Jones wedi ymddangos mewn degau o ffilmiau gan gynnwys Coming to America, Field of Dreams a Conan the Barbarian.
Ef hefyd oedd llais Mufasa yn y ffilm Disney The Lion King.
Fe leisiodd Jones gymeriad y gelyn Darth Vader mewn chwech o ffilmiau Star Wars, yn ogystal â rhaglenni teledu o'r gyfres.
Cyhoeddodd yr actor a chwaraeodd ran yr arwr Luke Skywalker yn y gyfres, Mark Hamill, neges ar X yn rhoi teyrnged i'w 'dad' Darth Vader.
Inline Tweet: https://twitter.com/MarkHamill/status/1833246565168803985