Newyddion S4C

Gorfoledd yn y glaw i Gymru ar ôl curo Montenegro 2-1

09/09/2024
Harry Wilson // FAW

Ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr nos Wener yn erbyn Twrci, roedd Cymru yn Nikšić nos Lun i herio Montenegro.

Fe wnaeth Craig Bellamy wneud pump newid i'r tîm a ddechreuodd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda golwr Leeds, Karl Darlow yn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad. A dyma oedd y tro cyntaf i Lewis Koumas ac Ollie Cooper ddechrau dros Gymru. 

Ben Davies gafodd ei ddewis yn gapten, ar ôl i Aaron Ramsey arwain y tîm yn erbyn Twrci.   

Er gwaetha'r glaw trwm, fe gafodd Cymru'r dechrau gorau posibl, gyda Kieffer Moore yn sgorio 37 eiliad yn unig wedi'r chwiban gyntaf. 

Ac yna daeth gôl wefreiddiol Harry Wilson wedi llai na dwy funud a hanner o chwarae.

Ond fe wnaeth Montenegro daro'n ôl yn gampus, gan greu digon o gyfleoedd i sgorio.

Wedi chwarter awr o chwarae fe welodd Jovetic fod Darlow yn ganol y cae ac felly fe darodd ergyd nerthol gyda'r bêl yn taro'r trawst. 

Dihangfa lwcus i Gymru.

Bu ond y dim i'r tîm cartref gorio eto wedi hanner awr, ond fe lwyddodd Ben Davies i arbed y bêl rhag croesi'r llinell o drwch blewyn.

Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda Brennan Johnson yn cymryd lle Connor Roberts ar ôl i Roberts ddioddef anaf.

Ar ddechrau'r ail hanner, gyda'r glaw yn dal i ddisgyn, fe ddaeth Sorba Thomas i'r cae yn lle Louis Koumas.

Er gwaethaf hanner cyntaf sigledig, fe ddaeth Montenegro yn ôl i'r cae ar y droed flaen – ac ar ôl 73 munud, fe wnaeth Driton Camaj sgorio gan gynyddu'r nerfau ymysg y Wal Goch.

Wedi 80 munud, fe ddaeth Ramsey a Mark Harris ar y cae yn lle Moore a Wilson.

Gyda chefnogaeth y Wal Goch, fe lwyddodd Cymru i gadw eu mantais hyd y diwedd, er bod ambell i funudau ofnus o chwarae bler yn y 10 munud olaf.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw, ac er nad oedd y chwarae cystal ag yr oedd yn erbyn Twrci, efallai fod yr amodau anodd ar y noson yn gyfrifol am ychydig o hynny.

Digon o reswm i ddathlu felly, a digon o le i wella yn amddiffynnol cyn wynebu Gwlad yr Iâ fis nesaf.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.