Y cyn is-bostfeistr o Gymru Syr Alan Bates yn priodi ar ynys Richard Branson
Mae’r cyn is-bostfeistr o ogledd Cymru Syr Alan Bates wedi priodi ei bartner Suzanne Sercombe ar ynys Syr Richard Branson.
Dywedodd papur newydd y Times bod perchennog cwmni Virgin wedi gweinyddu'r gwasanaeth ar Ynys Necker ei hun.
Dywedodd Syr Alan, 70, mewn cyfweliad ym mis Ionawr: “Os yw Richard Branson yn darllen hwn, byddwn i wrth fy modd yn cael gwyliau.”
Roedd y briodas yn syndod i’r Fonesig Bates, 69, a oedd wedi gwisgo ffrog yr oedd hi wedi ei bacio ar gyfer y gwyliau, meddai’r Times.
Dywedodd Syr Richard: “Roedd yn bleser pur cael chwarae rhan fach yn stori Alan a Suzanne, a dw i’n gwybod y byddan nhw’n parhau i oleuo bywydau pawb o’u cwmpas.”
Derbyniodd Alan Bates a oedd yn rhedeg swyddfa bost yn Llandudno urdd marchog i gydnabod ei frwydr i glirio enwau cannoedd o is-bostfeistri a fu'n rhan o un o gamweinyddiadau cyfiawnder mwyaf yn hanes y DU.
Derbyniodd y sgandal sylw cenedlaethol yn dilyn darlledu drama ITV 'Mr Bates VS The Post Office'.
Roedd y ddrama’n darlunio stori Mr Bates wrth iddo geisio datgelu’r gwir am anghysondebau cyfrifo yn ystod ei gyfnod fel is-bostfeistr.
Roedd yn un o dros 550 o weithwyr a ddaeth ag achos cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post am wallau system gyfrifiadurol Horizon rhwng 2017 a 2019.
Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu herlyn a derbyn euogfarnau rhwng 1999 a 2015, wrth i system ddiffygiol Fujitsu wneud iddi ymddangos fel petai arian ar goll yn eu canghennau.