Y Blaid Werdd yn dweud y bydd gyda nhw aelod yn Senedd Cymru yn 2026
Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi dweud y bydd gyda nhw aelod yn Senedd Cymru yn 2026.
Roedd Anthony Slaughter yn siarad yng nghynhadledd y Blaid Werdd ym Manceinion, y gyntaf ers i'r blaid ennill pedair AS yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin.
Dywedodd Anthony Slaughter: “Gynhadledd, gyda’ch help a’ch cefnogaeth fe allwn ni, mae’n rhaid i ni, sicrhau bod un o’n Gwyrddion yn cael ei ethol i’r Senedd yn 2026.”
Bydd nifer yr aelodau o’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96 yn etholiad 2026, allai rhoi gwell cyfle i’r pleidiau llai o faint sicrhau aelodau etholedig.
“Ni fu erioed fwy o angen am lais Gwyrdd etholedig yn y Senedd, ein senedd genedlaethol,” meddai.
“Ar ôl dros chwarter canrif mewn grym ym Mae Caerdydd mae Llafur Cymru wedi mynd yn flinedig, ac yn methu â chyflawni dros bobl Cymru.
“Fel llywodraeth maen nhw’n dymuno’r gorau ond heb weithredu ar hynny.”
Wrth droi ei olygon at San Steffan dywedodd nad oedd yn gweithio, hyd yn oed os oedd y “tîm coch” wedi disodli’r “tîm glas”.
“Mae Cymru’n haeddu gwell,” meddai.
“Dyma pam y bydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn parhau i ymgyrchu ochr yn ochr â sefydliadau blaengar eraill dros Gymru annibynnol.
“Dylai dyfodol Cymru fod dan reolaeth pobol Cymru.”
Mae Cynhadledd y Blaid Werdd yn cael ei chynnal o 6 i 8 Medi.