Newyddion S4C

'Ffermio a'r byd amaeth yn fy nghalon' medd merch 10 mlwydd oed sydd wedi ennill gwobr fawreddog

'Ffermio a'r byd amaeth yn fy nghalon' medd merch 10 mlwydd oed sydd wedi ennill gwobr fawreddog

'Mae ffermio a'r byd amaeth yn fy nghalon.'

Dyna eiriau Elliw Grug Davies, merch 10 oed o Geredigion, sydd wedi ennill gwobr fawreddog yng Ngwobrau Ffermio Ifanc Prydain.

Fe deithiodd Elliw, sy'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach, a'i theulu i Barnsley yn Sir Efrog yr wythnos diwethaf i gystadlu yn y Gwobrau Ffermio Prydeinig Ifanc cyntaf erioed.

Cafodd Elliw ei henwi’n Driniwr Iau’r Flwyddyn y DU ar ôl dangos ei tharw, Urock, yn y gystadleuaeth.

Image
Elliw Grug
Cafodd Elliw ei henwi’n Driniwr Iau’r Flwyddyn y DU

Dywedodd Elliw wrth Newyddion S4C: "Oedd hi'n ddiwrnod cyffrous i drafeilio lan i Cannon Hall yn Barnsley. O'n i ffaelu credu fe pan galwodd fy enw allan.

"Mae ffermio a'r byd amaeth yn bwysig iawn i fy nghalon i, rwy'n hoffi bod o amgylch gwartheg.

"Fi mor falch o fy hunan, fi ffaelu credu fe."

Dywedodd mam Elliw, Elen Davies, wrth Newyddion S4C: "Ni'n hynod o falch drosti hi, ma' hi mor awyddus i fod ynghlwm gydag amaethyddiaeth a sioeau, ni mor browd ohoni.

"Dyma'r flwyddyn cyntaf iddyn nhw neud e dan 18, felly mae'n bwysig achos nhw yw dyfodol amaethyddiaeth a gan obeithio drwy weld Elliw yn cael y wobr yma, bydd e'n rhoi mwy o bobl ifanc yn camu mewn i'r ring, gwartheg, defaid, moch, pwy bynnag anifal ma' nhw mo'yn dangos i gystadlu ac mae unrhyw beth yn bosib."

Image
Elliw
Mae Elliw wedi ennill nifer o wobrau.

Mae Elliw yn mwynhau helpu ei rhieni ar y fferm ac mae ganddi uchelgais o drin a chymoni gwartheg pan y bydd yn tyfu i fyny.

Mae ei brawd bach Ioan yr un mor uchelgeisiol ac yn dysgu gan Elliw. 

Mae ganddo ei lo tarw ei hun o’r enw Victor, sydd ond yn bythefnos oed, ac mae Ioan yn gobeithio ei ddangos yn y cylch yn y dyfodol.

Fodd bynnag, nid dyma’r wobr gyntaf i Elliw ei hennill. Ar ôl ymuno â chylch y sioe yn bedair oed yn unig, mae wedi ennill nifer o deitlau, gan gynnwys gwobr Triniwr Ifanc Iau yn Sioe Frenhinol Cymru gyda defaid Dorset.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.