Newyddion S4C

Buddugoliaeth gyntaf erioed mewn gêm gystadleuol i wlad fechan San Marino

San Marino

Mae’r wlad fechan San Marino wedi ennill ei gêm bêl-droed gystadleuol gyntaf erioed.

Curodd San Marino Liechtenstein 1-0 ym mhedwaredd haen Cynghrair y Cenhedloedd, gan sicrhau eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf erioed ar ôl 34 mlynedd.

“Mae’r dydd wedi dod o’r diwedd - gall y blaned gyfan ddweud bod San Marino wedi ennill!” meddai cyfrif X swyddogol y tîm pêl-droed rhyngwladol.

Dim ond 35,000 o bobol sy’n byw yn y wlad chwe milltir o hyd sydd wedi ei hamgylchynau’n gyfan gwbl gan yr Eidal.

Nicko Sensoli sgoriodd unig gôl y gêm yn Serravalle, gan lywio’r bêl heibio’r golwr Benjamin Büchel ar ôl 53 munud.

Cafodd gôl gan Fabio Luque Notaro o Liechtenstein yn yr hanner cyntaf ei gwrthod wedi iddo gamsefyll.

Roedd San Marino wedi ennill un gêm gyfeillgar o’r blaen, eto yn erbyn Liechtenstein, gyda buddugoliaeth 1-0 yn 2004.

Maen nhw bellach wedi ennill un, wedi sicrhau pedair gem gyfartal, ac wedi colli 171 o gemau cystadleuol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.