Gorchymyn gwasgaru mewn lle yn rhan o Wrecsam i 'atal ymladd'

Newyddion S4C
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi gorchymyn gwasgaru mewn grym yn un rhan o Wrecsam er mwyn "atal ymladd sydd yn gyswllt â phêl-droed".
Mae'r gorchymyn yn cael ei weithredu yn ardal Heol Kenyon yn Johnstown, ac fe fydd mewn lle tan 16:00 ddydd Sul, 11 Gorffennaf.
Fe fydd y gorchymyn yn rhoi pŵer i'r heddlu wasgaru grwpiau o bobl o'r ardal os bydd eu presenoldeb neu ymddygiad yn debygol o ddychryn eraill.
Mae North Wales Live ar ddeall bod y gorchymyn mewn lle yn dilyn ymosodiad yn yr ardal, lle bu y rhai a oedd yn rhan o'r digwyddiad yn cario arfau ar y pryd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.