Cyflwyno deddfrwiaeth i gael gwared o arglwyddi sydd wedi etifeddu eu lle
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth ddydd Iau i gael gwared ar arglwyddi sydd wedi etifeddu eu teitlau o Dŷ’r Arglwyddi.
Mae yna 92 o aelodau yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd wedi etifeddu eu lle yn yr uwch siambr ac roedd y Blaid Lafur wedi addo cael eu gwared a nhw yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
Dywedodd Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen a gweinidog y cyfansoddiad, fod y ddeddfwriaeth yn “garreg filltir”.
Dywedodd: “Mae’r egwyddor etifeddol wedi para’n rhy hir ac nid yw’n cyd-fynd â Phrydain fodern.
“Mae’r ail siambr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cyfansoddiad ac ni ddylai pobl fod yn pleidleisio ar ein cyfreithiau yn y Senedd oherwydd pwy yw eu rhieni.
“Mae’r Bil hwn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i gyflawni ein maniffesto.”
Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r ddeddfwriaeth gan ddweud ei fod yn “ddialgar” a’n “fandaliaeth wleidyddol”.
Ymhlith yr arglwyddi etifeddol presennol yn Nhŷ'r Arglwyddi mae'r Arglwydd Attlee, ŵyr i'r prif weinidog Llafur Clement Attlee; a Dug Wellington, etifedd ei hen-hen-hen dad-cu a drechodd Napoleon yn Waterloo ym 1815.
Maen nhw’n cynnwys nifer o arglwyddi sy’n dwyn enwau Cymreig neu sydd â chysylltiadau Cymreig gan gynnwys arglwyddi Penrhyn, Aberconway, Carnarvon, Merthyr, a Snowdon.